Elusen y GIG yn prynu cadeiriau gwerth £7,500 ar gyfer Ward Meurig, Bronglais

0
305
Uchod: yn y llun gydag un o'r cadeiriau addasadwy mae Nyrs Staff Cerys Lewis

Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu tair cadair orwedd ac 11 cadair ochr gwely addasadwy yn costio £7,500 i gleifion yn ward oncoleg Meurig yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth.

Dywedodd Gweinyddwr y Ward, Ellen Masters: “Mae’r cadeiriau gorwedd yn galluogi cleifion i fod yn gyfforddus allan o’r gwely, gyda sedd y gellir ei gogwyddo i lawr i safle gwastad a’i haddasu i’w hanghenion unigol. Mae uchder y cadeiriau wrth ochr y gwely hefyd yn addasadwy a gellir gosod y breichiau i weddu i’r claf.

“Mae’r cadeiriau newydd hyn yn gwella profiad a chysur y claf, yn annog cleifion i godi o’r gwely ac yn hybu annibyniaeth, symudedd ac adferiad cyflymach.”

Yn y llun gydag un o’r cadeiriau lledorwedd coch mae Nyrs Staff Michelle Strikleton ac yn y

llun gydag un o’r cadeiriau addasadwy mae Nyrs Staff Cerys Lewis.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle