Cadair symud cleifion gwerth £7,000 wedi’i phrynu gan Elusennau Iechyd Hywel

0
362
Uchod: Yn y llun gyda'r gadair mae Jackie Cromwell, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd

Diolch i’ch rhoddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu cadair symud cleifion gwerth £7,000 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.

Bydd y gadair yn cael ei defnyddio ar gyfer adsefydlu cleifion sydd angen gofal dwys.

Dywedodd yr Uwch Brif Nyrs Helen Piper, rheolwr yr uned: “Gall cleifion gael eu symud ar draws o’u gwelyau yn llawer haws oherwydd bod y gadair yn mynd yn fflat. Yna gellir codi’r gadair i safle eistedd, fel y gall cleifion eistedd er mwyn cryfhau eu cyhyrau.

“Mae symud cleifion mor gynnar â phosibl yn rhoi’r canlyniad gorau ar gyfer adferiad ac yn gwella lles meddwl y claf.”

Ychwanegodd Helen: “Heb y gadair symud hon, mae’n rhaid defnyddio teclyn codi i gael cleifion ansymudol o’u gwely i mewn i gadair. Mae’r gadair yma yn llawer mwy cyfforddus i gleifion ac yn haws i nyrsys, felly rydym yn falch iawn o’i chael.”

Yn y llun gyda’r gadair mae Jackie Cromwell, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle