CYSTADLEUAETH YN RHOI SYLW I GYNHYRCHWYR MOCH Y DYFODOL YN Y FFAIR AEAF

0
336
CAPSIYNAU LLUNIAU: Rebecca John yn derbyn ei wobr. O’r Chwith i’r dde; Rebecca John, Ela Roberts, Daniel Morris, Rhiannon Davies, Dewi Davies.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae ffermwr ifanc Rebecca John o Sir Benfro (C.Ff.I Abergwaun), wedi’i enwi’n bencampwr cystadleuaeth a grëwyd i annog cenhedlaeth nesaf Cymru o gynhyrchwyr moch.

Yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, Rebecca John, o Glwb Ffermwyr Ifanc Abergwaun yn bencampwr cyffredinol Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru.

Dywedodd Rebecca, “Roedd yn sioc i ennill; Nid oeddwn yn ei ddisgwyl o gwbl. Gall unrhywun o’r cystadleuwyr yn y rownd derfynol wedi ennill. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth, a hoffwn gweithio gyda moch eto yn y dyfodol. Doedd gen i ddim profiad moch blaenorol, ond mae cymryd rhan wedi rhoi mwy o hyder i mi, ac gwmaeth sesiynau Menter Moch Cymru wedi ei cwmpasu popeth oedd ei angen arnom.”

Yn agored i aelodau CFfI ledled Cymru; nod y fenter yw cyflwyno pobl ifanc i ddiwydiant moch Cymru.

Ym mis Gorffennaf, dewiswyd chwe enillydd, a dewiswyd Rebecca ochr yn ochr â Carys Jones o Sir Gaerfyrddin (C.Ff.I Llangadog), Jack a Rhys Morgan o Abertawe (C.Ff.I Gŵyr), Frances Thomas o Aberhonddu (C.Ff.I Pontsenni), a Leah ac Alis Davies o Sir Ddinbych (C.Ff.I Nantglyn).

Derbyniodd yr enillwyr bump o ddiddyfnwyr i fagu a rhaglenni hyfforddi pwrpasol a ddyfeisiwyd gan Fenter Moch Cymru i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i sefydlu a rheoli eu mentrau moch newydd.

Roedd yr hyfforddiant yn cwmpasu pob agwedd ar fagu moch, o hwsmonaeth, deddfwriaeth, a maeth, i helpu gyda marchnata eu porc – ynghyd â chymorth mentoriaid parhaus trwy Menter Moch Cymru.

Mae Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, Rhiannon Davies, yn gyn-enillydd Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru. Ar y pryd yn aelod o CFfI Caerwedros, cymerodd Rhiannon ran yn y gystadleuaeth, a’i gosododd ar lwybr gyrfa sydd wedi cwblhau’r cylch.

Meddai Rhiannon, “Rwy’n falch iawn dros Rebecca a holl enillwyr y gystadleuaeth. Rwy’n gwybod o brofiad uniongyrchol pa mor gyffrous oedd y daith y buont arni a faint o gefnogaeth a hyfforddiant gwych y maent wedi’i dderbyn gan Fenter Moch Cymru. Fel newydd-ddyfodiaid i ddiwydiant moch Cymru, dymunaf bob llwyddiant iddynt wrth iddynt gymryd eu camau nesaf.

Dywedodd Dewi Davies, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI, “Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn gyfle gwych i aeloday Ffermwyr Ifanc Cymru gael cyfle i dreialu menter newydd o fagu moch ac mae’r sgiliau y maent wedi’u dysgu yn amhrisiadwy.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle