St John Ambulance Cymru a Business in Focus yn gweithio gyda’i gilydd mewn cymunedau ledled Cymru

0
417
Dionne and her 'CPR superstars' in Caerphilly.

Mae Business in Focus a St John Ambulance Cymru yn cydweithio i gynnal sesiynau ymwybyddiaeth cymorth cyntaf sylfaenol ar gyfer teuluoedd di-waith ledled Cymru, gan ddangos ymrwymiad parhaus i wella iechyd a lles cymunedau yng Nghymru.

Mae prosiect Business in Focus Focus Futures wedi bod yn rhedeg ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r nod o wella sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol a hunanhyder unigolion di-waith. Mae’r cynllun yn cynnig gwersi ar ystod o bynciau gan gynnwys adeiladu CV, gosod nodau, cynyddu incwm a sgiliau cyfweld.

Nod prosiect Focus Futures yw addysgu sgiliau bywyd pwysig a meithrin hunanhyder unigolion, gan gynnal gweminarau yn ogystal â sesiynau wyneb yn wyneb i gynorthwyo pobl ar eu taith cyflogaeth.

Esboniodd Nicola Masters, Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol yn Business in Focus eu cydweithrediad ag St John Ambulance Cymru: “Mae sgiliau cymorth cyntaf yn amhrisiadwy, yn sgiliau sy’n newid bywydau sydd, mewn sefyllfa o argyfwng, yn golygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth”.

 “Mae’n ymwneud â rhoi hyder i bobl yn eu cyflogadwyedd a hyder mewn bywyd bob dydd.”

Mae hyfforddwyr St John Ambulance Cymru yn cynnal cyfanswm o chwe sesiwn ledled Cymru fel rhan o’r prosiect. Cynhaliwyd un sesiwn yng Nghaerffili ar benwythnos Calan Gaeaf, gan Hyfforddwr Cymunedol St John AmbulanceCymru, Dionne Ford.

Disgrifia Dionne sut y gwnaethant y sesiwn yn hwyl gyda gemau, danteithion a diodydd i’r plant. Roedd yr adborth yn wych a mwynhaodd y teuluoedd ddysgu am gymorth cyntaf a CPR yn fawr. Roedd un wraig, Jess, yn gweld y sesiwn yn eithaf teimladwy.

Eglurodd Dionne;

“Ar ôl cyrraedd, esboniodd Jess ei bod wedi colli ei gŵr bedair blynedd yn ôl, roedd hi’n ymddangos yn emosiynol iawn. Fodd bynnag, ei ffrindiau a’i thri phlentyn oedd ei system gynhaliol trwy gydol ei galar. Esboniodd ei bod eisiau gwneud ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf er mwyn symud ymlaen o’i galar ac i gadw ei theulu a’i phlant yn ddiogel yn y dyfodol.”

“Diolchodd i ni gan fod y teulu wedi dysgu rhai sgiliau bywyd gwerthfawr. Roedd hi wir eisiau i’w merch ymuno â Moch Daear a’i phlant eraill i fynychu Cadetiaid Ieuenctid yn adran Rhisga.”

Dywedodd Dionne ei bod yn anelu at i’w sesiynau fod yn “weithgaredd hwyliog a chofiadwy i’r teulu cyfan” yn ogystal â cheisio grymuso pobl gyda’r wybodaeth i gadw anwyliaid yn ddiogel.

Erbyn diwedd y sesiwn, disgrifiodd Dionne y grŵp fel “CPR superstars!”

Mae Nicola a Dionne yn y broses o drefnu sesiwn hyfforddiant diffibriliwr dilynol ar gyfer y grŵp, er mwyn datblygu eu sgiliau cymorth cyntaf.

Roedd Nicola eisiau diolch i’r elusen am eu holl help gyda’r prosiect Ffocws Dyfodol, esboniodd; “Rydym yn falch o gefnogi St John Ambulance Cymru.”

“Rydym yn teimlo’n angerddol dros gael sgiliau bywyd amhrisiadwy, fel cymorth cyntaf, allan i gymunedau Cymru – Rydym yn falch o gefnogi St John Ambulance Cymru a hoffem ddiolch i’r elusen am eu holl gymorth gyda’r prosiect Future Focus”.

I ddarganfod mwy am hyfforddiant cymorth cyntaf St John Ambulance Cymru, ewch i www.sjacymru.org.uk/en/page/training.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle