TrC yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i wella rhwydwaith bysiau

0
305

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi partneru â chwmni gwybodaeth symudedd Cityswift i ddefnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial i wella profiad teithwyr bysiau yng Nghymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru ar daith drawsnewidiol i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru ac annog mwy o bobl i’w defnyddio.  Mae’r gwaith dadansoddi data gyda Cityswift wedi rhoi mynediad i TrC i fewnwelediadau newydd ac amseroedd rhedeg a bwerir gan AI.

Drwy’r data a ddarparwyd, gallai Trafnidiaeth Cymru gael gwybodaeth am berfformiad pump o brif weithredwyr bysiau Cymru, gan ganolbwyntio ar alw a dadansoddi patrymau symudiadau.  Gan ddefnyddio’r data hwn, gall Trafnidiaeth Cymru wella amserlenni bysiau a phrydlondeb, gan gynnig gwasanaeth llawer mwy dibynadwy a chyfleus i deithwyr gydag amseroedd teithio cyflymach.

Dywedodd Andrew Sherrington, Pennaeth Rhwydwaith Bysiau a Datblygu Gwasanaethau TrC: “Mae CitySwift wedi rhoi gwell dealltwriaeth gyffredinol i Trafnidiaeth Cymru o’r ffordd y mae’r rhwydwaith yn symud.  Am y tro cyntaf, mae gennym wybodaeth am brydlondeb, dibynadwyedd ac effeithlonrwydd manwl pum cwmni bysiau mawr Cymru.

“Bydd yr wybodaeth newydd hon yn ein galluogi i weithio gyda gweithredwyr i wneud y bws yn wasanaeth mwy deniadol i bobl Cymru.”

Yn siarad am lwyddiant parhaus y bartneriaeth, dywedodd John Aloy, Pennaeth Twf CitySwift: “Mae CitySwift yn falch iawn o gefnogi Trafnidiaeth Cymru yn darparu opsiynau trafnidiaeth diogel, cynaliadwy i bobl Cymru.

“Gan ddefnyddio gwybodaeth symudedd CitySwift i gael gwybodaeth am berfformiad, data ac amserlenni diwygiedig, gall tîm Trafnidiaeth Cymru ddarparu gwasanaeth bws mwy deniadol, dibynadwy a chyfleus i bobl Cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle