Menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru’n lansio Hwb Bwyd Aberdaugleddau gyda PATCH

0
711

Mae menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, a arweinir gan PLANED, yn falch o fod wedi lansio ei phedwaredd hwb bwyd yng ngorllewin Cymru ar y cyd â PATCH. Mae’r prosiect yn annog gwirfoddolwyr i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol er mwyn gallu mwynhau bwyd iach am bris da.

Agorodd yr hwb bwyd yn Aberdaugleddau a Siop Elusennol PATCH ar Charles Street yn swyddogol ddydd Mercher 30 Tachwedd gan y Cynghorydd Tref, Martin Jones, a daeth nifer o bobl o’r gymuned leol i gefnogi, gyda sylw’r wasg yn fyw gan Pure West Radio.

Hoffai tîm WCFD ddiolch i bawb yn PATCH, y gwirfoddolwr a phawb a ymunodd â ni yn y lansiad.

Bydd yr hwb bwyd ar agor bob dydd Mercher rhwng 12-2pm i bawb allu archebu llysiau, ffrwythau neu salad ffres, neu nôl eu harcheb. Mae’r gwirfoddolwyr sy’n rhedeg yr hwb yn fwy na pharod i sgwrsio am sut mae’r hwb yn gweithio, cynnig awgrymiadau am ryseitiau ac maent wrth eu bodd yn clywed gan y cyhoedd am ba gynnyrch yr hoffent ei weld yn cael ei gynnig yn y dyfodol.

Dywedodd Fern o dîm WCFD, “Mae’n wych gallu cydweithio ag Elusen PATCH a’n cyflenwr arbennig, Fresh and Fruity, i gynnig cynnyrch ffres am bris da i bobl leol.”

Dywedodd Dave Golding, cynrychiolydd o PATCH, “rydym ar ben ein digon cael cyflwyno’r fenter wych hon i gymuned Aberdaugleddau.”

Mae angen gwirfoddolwyr ychwanegol o hyd i gefnogi’r hybiau bwyd, felly cysylltwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig help llaw, a phetaech yn gallu elwa o hyfforddiant ac adnoddau am ddim!

Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan PLANED, ac mae wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy ar y wefan isod https://www.communityfood.wales/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle