Bore coffi yn codi £5,000 i Apêl Cemo Bronglais

0
240
Nerys Thomas coffee morning cheque presentation

Trefnodd y Nyrs Arbenigol Nerys Thomas fore coffi er cof am ei chwaer yng nghyfraith a chodwyd £5,000 gwych at Apêl Cemo Bronglais.

Yn anffodus bu farw Sharon Jones, a oedd yn athrawes yn Ysgol Ponterwyd, naw mlynedd yn ôl yn ddim ond 31 oed a phan oedd ei merch Gwenno ond yn ddwy oed.

“Byddai hi wedi bod yn ben-blwydd Sharon yn 40 oed ar y 5ed o Fehefin, felly fe benderfynon ni gynnal bore coffi er cof amdani ar benwythnos y Jiwbilî a chodi arian at yr Apêl,” meddai Nerys, sy’n byw yng Nghaerfyrddin ond yn gweithio yn Ysbyty Bronglais fel Coluddyn Nyrs Arbenigol Canser.

“Cynhaliwyd y bore coffi yn Neuadd Eglwys Llangwyryfon ac roedd stondin gacennau a raffl hefyd. Er i ni ei drefnu ar fyr rybudd, roedd yn ddiwrnod hyfryd gyda nifer anhygoel yn bresennol.

“Hoffai gŵr Sharon, Arwyn a merch Gwenno, sydd bellach yn 11, ynghyd â minnau, ddiolch i deulu a ffrindiau am eu cefnogaeth a’r holl gyfraniadau, gan gynnwys rhai gan gyn-gydweithwyr Sharon a ffrindiau o’r coleg.”

Ychwanegodd Nerys: “Mae’r uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais yn wasanaeth mor bwysig i bobl leol. Roedd Dr Elin a’r tîm yn gymaint o gefnogaeth i Sharon ar y pryd. A nawr bydd uned newydd bwrpasol yn gwneud cymaint o wahaniaeth.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar i Nerys a’i theulu am eu cefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu i’n helpu i gyrraedd ein targed.

“Rydym yn falch iawn o adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle