Truck Show yn codi £4,000 i Ysbyty Llwynhelyg

0
211
Yn y llun o'r chwith i'r dde: Helen Johns, Rheolwr Gwasanaeth Ysbyty, Donna Griffiths, Gweithiwr Cymorth Eiddilwch, Chris Williams, trefnydd y Celtic Truck Show a Janice Cole-Williams, Rheolwr Cyffredinol.

Mae Chris Williams, o Hwlffordd, wedi codi £4,000 i Ysbyty Llwynhelyg drwy drefnu’r Celtic Truck Show am yr ail flwyddyn yn olynol.

Denodd y Celtic Truck Show, a gynhaliwyd ar 1 Mai ar Faes Sioe Sir Benfro, Hwlffordd, gannoedd o lorïau o bob rhan o’r DU.

Cododd y sioe hefyd £4,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Helen Johns, Rheolwr Gwasanaeth Ysbyty, Donna Griffiths, Gweithiwr Cymorth Eiddilwch, Chris Williams, trefnydd y Celtic Truck Show a Janice Cole-Williams, Rheolwr Cyffredinol.

Dywedodd Chris, o Hwlffordd, “Roeddem am gefnogi ein hysbyty a’n cymuned leol. Roedden ni hefyd eisiau dweud diolch yn fawr i’n GIG.”

Dywedodd Janice Cole-Williams, Rheolwr Cyffredinol Ysbyty Llwynhelyg: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r Celtic Truck Show am eu hymdrechion rhagorol i godi arian er budd cleifion a staff Ysbyty Llwynhelyg.

“Mae hyn i’w groesawu’n fawr a bydd yn cael ei roi tuag at wella profiad cleifion a llesiant staff.”Air Ambulance.how for their outstanding efforts in raising funds for the benefit of patients and staff at Withybush Hospital.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle