Cyfleusterau cymunedol yng ngorllewin Cymru yn elwa ar gyllid ychwanegol ‘hanfodol’ er mwyn talu costau cynyddol

0
201

Bydd cyfleusterau cymunedol yng ngorllewin Cymru yn elwa ar gyllid ychwanegol ‘hanfodol’ gan Lywodraeth Cymru er mwyn eu galluogi i orffen gwaith adnewyddu.

Roedd hi wedi bod yn anodd aros o fewn cyllidebau gwreiddiol y prosiectau oherwydd costau cynyddol cyflenwadau adeiladu.

Mae 15 o brosiectau ledled Cymru yn cael cyllid gwerth cyfanswm o £467,000 yn y cylch hwn o’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol. Roedd hyn yn cynnwys £164,000 tuag at ddeg prosiect llai, pob un yn cael grant o dan £25,000.

Bydd mwy na £303,000 o gyllid ychwanegol yn mynd tuag at bum prosiect mwy o faint. Gall symiau bach o gyllid grant ddarparu newid mawr i gyfleusterau cymunedol.

Mae cyllid y rhaglen yn mynd at brynu a gwella cyfleusterau sy’n darparu cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae tri o’r prosiectau hyn yng ngorllewin Cymru.

Mae’r prosiectau llai yn cynnwys £13,000 tuag at sicrhau bod gofod coetir yn Bluegreen Cymru yng Nghoed Glanteifi, Sir Benfro yn fwy hygyrch ar hyd y flwyddyn drwy greu llwybrau newydd, gosod stôf goed a chreu ardal dan do.

Mae’r prosiectau mwy o faint yn cynnwys £50,000 i Neuadd Bentref Aberporth yng Ngheredigion tuag at ailadeiladu un eiddo a moderneiddio ac adnewyddu adeilad cyfagos gan gynnwys diweddaru’r gegin, y toiledau, gwella hygyrchedd i bobl anabl a gwella effeithlonrwydd ynni, yn ogystal â £50,000 tuag at ffenestri newydd i wneud adeilad New Life Church yn Aberteifi, Ceredigion yn fwy cynaliadwy o ran costau ynni.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: “Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn hanfodol er mwyn gallu gorffen y prosiectau mwy o faint hyn fel y gall cymunedau ledled Cymru elwa arnynt.

“Oherwydd costau cynyddol deunyddiau, mae eu cyllidebau wedi eu gwasgu wrth iddynt ddod at ddiwedd eu prosiectau. Ni fyddent wedi gallu gwneud gwaith hanfodol fel trwsio toeon, gosod ffenestri newydd na gwneud gwelliannau arbed ynni heb gymorth ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn gallu mwynhau’r cyfleusterau cymunedol hyn pan fyddant wedi eu gorffen, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed am y cynnydd a wneir arnynt.”

Dywedodd Sue Lewis, swyddog prosiect arweiniol Neuadd Bentref Aberporth yng Ngheredigion, lle mae gwaith yn cynnwys ailadeiladu un eiddo a moderneiddio ac ailwampio adeilad cyfagos, eu bod yn gobeithio gorffen mewn pryd erbyn Nadolig y flwyddyn nesaf.

“Yn y pen draw, mae’r cyllid hwn wedi golygu y gallwn gyflawni’r prosiect,” meddai.

“Mae’n mynd i drawsnewid ein cymuned yn llwyr. Wedi iddo gael ei orffen bydd gennym ganolbwynt i’r pentref. Bydd yn ganolfan gynnes a chroesawgar a fydd at ddefnydd pawb.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle