Syrcas fyd-enwog a gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn dod i Gymru yn 2023

0
368

Mae syrcas gyfoes fyd-enwog yn dod i Abertawe a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn 2023, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Pentref Syrcas yn dod i Abertawe am y tro cyntaf, dan arweiniad y syrcas sydd wedi ennill bri rhyngwladol, NoFit State Circus, mewn partneriaeth â chwmnïau ac artistiaid syrcas blaenllaw, a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn Aberystwyth yn derbyn cyllid gan Digwyddiadau Cymru ar gyfer datblygu’r digwyddiadau.

Bydd NoFit State yn croesawu tua 200 o artistiaid syrcas y DU ar gyfer rhaglen o ddatblygiad proffesiynol cydweithredol yn Ne Cymru. Cynhaliwyd y Pentref Syrcas am y tro cyntaf yn 2021 a, gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, bydd cyfranogwyr 2023 yn byw, yn gweithio ac yn creu gyda’i gilydd ar safle pwrpasol gyda thair Pabell Fawr, a’r penllanw fydd dathliad cyhoeddus a Gŵyl Syrcas yn para tridiau ym mis Ebrill 2023. Bydd y digwyddiad yn croesawu cynulleidfaoedd i’r safle ac i’r Pebyll Mawr i weld gwaith newydd wedi’i greu gan gyfranogwyr y Pentref Syrcas, ochr yn ochr â chynhyrchiad teithiol presennol NoFit State, SABOTAGE.

Dywedodd Tom Rack, Cyfarwyddwr Artistig NoFit State Circus:

Mae NoFit State yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth hael Llywodraeth Cymru i Bentref a Gŵyl Syrcas 2023.

“Diolch i’w buddsoddiad nhw, rydyn ni’n gallu ehangu’r prosiect Pentref Syrcas – sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu sgiliau ar gyfer gweithwyr syrcas proffesiynol – a chynnwys Gŵyl Syrcas gyhoeddus yn rhan ohono, gan roi cyfle i ni rannu syrcas gyfoes arloesol ac anhygoel gyda chynulleidfaoedd Cymru a’r DU.

Tair Pabell Fawr, pedair sioe wahanol – ‘fydd Abertawe ddim wedi gweld unrhyw beth tebyg erioed. Bydd yn ddiweddglo epig i brosiect epig.”

Gŵyl Crime Cymru Festival yw’r unig ŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yng Nghymru, sy’n rhoi sylw i sêr y byd ffuglen drosedd yng Nghymru ochr yn ochr â gwerthwyr gorau ac enwau cyfarwydd o’r DU a thramor. Mae wedi cael ei chynnal yn ddigidol yn 2021 a 2022. Mae’r digwyddiad byw cyntaf wedi’i gynllunio ar gyfer 21-23 Ebrill 2023. Aberystwyth, sydd eisoes yn adnabyddus fel cartref y gyfres deledu trosedd Y Gwyll/Hinterland, fydd cartref yr ŵyl, a’r nod yw sefydlu gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol o safon fyd-eang i Gymru. Bydd y digwyddiad hefyd yn cefnogi awduron i ddatblygu talent ysgrifennu trosedd Gymreig newydd ac yn hyrwyddo bywyd artistig Cymreig yng Nghymru a thu hwnt.

Dywedodd Alis Hawkins, Cadeirydd Gŵyl Crime Cymru Festival:

“Mae trefnwyr Gŵyl CRIME CYMRU Festival – gŵyl ar-lein yn unig hyd yn hyn – wrth eu bodd bod cefnogaeth Digwyddiadau Cymru nawr yn caniatáu i ni lwyfannu gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol gyntaf erioed Cymru yn Aberystwyth ym mis Ebrill 2023.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod yr angen am gynnal digwyddiad o’r fath wedi’i gydnabod ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno’r digwyddiad ym mis Ebrill.”

Mae cyllid parhaus wedi’i gytuno hefyd ar gyfer FOCUS Wales, gŵyl aml-leoliad flynyddol y diwydiant cerddoriaeth, sy’n defnyddio 20 llwyfan ar draws amrywiaeth o leoliadau a safleoedd yn Wrecsam.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Rwy’n falch iawn ein bod ni’n gallu cefnogi datblygiad y digwyddiadau diwylliannol hyn a fydd yn ychwanegiadau cyffrous at galendr digwyddiadau diwylliannol Cymru.

Byddant yn rhoi llwyfan gwych ar gyfer datblygu sgiliau a thalent yn ogystal â darparu mwy fyth o resymau i bobl ymweld â Chymru yn 2023.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle