Dŵr Cymru’n dyfarnu dros £30k i gynorthwyo 82 o elusennau a phrosiectau cymunedol lleol yn 2022

0
187
  • Dyfarnwyd £30k i gymunedau lleol yng Nghymru a Sir Henffordd trwy Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru Welsh Water  
  • Mae dros 82 o grwpiau wedi diogelu cyllid trwy’r Gronfa Gymunedol ers Ionawr 2022 
  • Mae prosiectau sy’n cael cymorth gan Ddŵr Cymru’n cael eu llywio gan ddymuniad i wella cymunedau lleol a’r amgylchedd  

Yn 2022, roedd Dŵr Cymru Welsh Water wrth ei fodd i ddyfarnu dros £30k i grwpiau a sefydliadau lleol sydd wedi eu cynorthwyo i gyflawni prosiectau arloesol yn eu cymuned. 

Mae Dŵr Cymru Welsh Water, sy’n darparu gwasanaethau hanfodol, wedi ymrwymo i roi rhywbeth nôl i gymunedau lleol. Mae 82 elusen a sefydliad o bob rhan o Gymru a Sir Henffordd wedi diogelu cyllid o Gronfa Gymunedol y cwmni nid-er-elw.  

Mae llawer o brosiectau amgylcheddol a chymunedol wedi manteisio ar gyllid diolch i’r fenter gymunedol. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad Dŵr Cymru i amddiffyn a chyfoethogi’r amgylchedd, ac ymdrechu i helpu cymunedau lleol.  

Mae’r cyllid wedi helpu grwpiau cymunedol i lewyrchu, ac yn arbennig y rhai sydd wedi ffeindio pethau’n anodd ers y pandemig Covid-19. Mae hi wedi galluogi grwpiau cymunedol i brynu offer hanfodol newydd, mae ysgolion wedi gallu datblygu ardaloedd dysgu awyr agored ac mae grwpiau chwaraeon wedi prynu’r offer sydd ei angen arnynt i gadw eu clybiau’n rhedeg.

Dywedodd Ruth Mills, Rheolwr Codi Arian a Grantiau, Autistic Minds: “Mae cyllid gan Ddŵr Cymru wedi ein galluogi ni i brynu offer newydd i ehangu ein gwaith i ailddefnyddio’r papur a’r cerdyn y mae ein tîm yn ei falu i wneud cynnyrch i’w werthu i’r cyhoedd, gan gynnwys pethau cynnau tân a deunydd gwely i anifeiliaid anwes. Mae ein tîm yn dysgu sgiliau newydd oherwydd hyn, ac mae’r ffaith fod gennym offer ychwanegol yn golygu y gallwn gynnig mwy fyth o gyfleoedd am hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer pobl ag awtistiaeth yn ein cymuned. Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth!”

Mae Dŵr Cymru wedi cynorthwyo prosiectau sy’n helpu i amddiffyn a chyfoethogi’r amgylchedd hefyd, gyda dros 45 o grwpiau’n cael cymorth gyda’u mentrau bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys  denu bywyd gwyllt i gymunedau lleol, adnewyddu gardd goffa a darparu cyllid i greu ardaloedd i ddysgu yn yr awyr agored.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: 

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru’n falch o gefnogi grwpiau a chymunedau lleol. Rydyn ni’n chwilio bob amser am gyfleoedd i helpu’r cymunedau a wasanaethwn, yn arbennig dros y blynyddoedd diwethaf yma sydd wedi bod mor anodd yn ariannol.  Fel sefydliad nid-er-elw, cwsmeriaid sydd wrth galon popeth a wnawn. Rydyn ni eisoes yn chwarae rôl allweddol yn ein cymunedau trwy ddarparu’r gwasanaethau mwyaf hanfodol – sef dŵr glân, a thrin a chael gwared ar ddŵr gwastraff yn ddiogel –

ac mae’n bleser gennym gefnogi grwpiau lleol fel hyn.”  

Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud, gallech dderbyn gwerth hyd at £1000 o gyllid gan Ddŵr Cymru. Am fanylion ewch i www.dwrcymru.com/Cronfa-Gymunedol  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle