A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân?

0
259

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal Sesiwn Flasu yng Nghanolfan Hyfforddi Coed-yr-iarll ar 16 Ionawr 2023, am 1:30pm-4:30pm.

Nod ein Diwrnod Profiad teirawr yw rhoi cyfle i bobl gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiol rolau a gofynion mynediad yn y Gwasanaeth Tân, ac am y rôl ehangach y mae’r Gwasanaeth Tân yn ei chwarae yn y gymuned, gan gynnwys:

-Rôl diffoddwr tân modern
-Rhoi cit a chyfarpar y diffoddwyr tân amdanoch
-Y gwahanol agweddau ar y broses recriwtio
-Pwysigrwydd ffitrwydd a chynnal ffitrwydd
-Y gwahanol fathau o gyfarpar a chyfarpar diogelu personol
-Llwybrau gyrfa a mapiau rolau

Dyma’r cyfle perffaith i weld yr hyn y mae diffodd tanau yn ei olygu!

MAE ARCHEBU’N HANFODOL

I gofrestru, ewch i’n gwefan: https://www.tancgc.gov.uk/cym/ymunwch-a-ni/diwrnod-profiad/ 

#ByddwchYnDdiffoddwrTân #Gallwch #MaeArnomEichAngenCHI 🚒🔥


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle