Ysbyty Llwynhelyg yn cael cadair trawma newydd gwerth £6,000 diolch i Elusennau Iechyd Hywel Dda

0
267
Uchod: Yn y llun gyda'r gadair mae'r Ffisiotherapydd Scott Jakeman

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu cadair trawma arbenigol gwerth £6,000 i gleifion ar Ward 1 yn Ysbyty Llwynhelyg, diolch i roddion.

Dywedodd yr Uwch Brif Nyrs Gemma Evans: “Dyma ddarn o offer arbenigol sy’n lledorwedd

yn wastad, fel bod staff yn gallu llithro cleifion yn ysgafn o’u gwelyau. Yna gellir codi’r gadair i safle eistedd, fel y gall cleifion eistedd y tu allan i gefnogi eu lles a’u hannibyniaeth.

“Mae symud cleifion mor gynnar â phosibl yn rhoi’r canlyniad gorau ar gyfer adferiad ac adsefydlu, a all arwain at ryddhau’n gynt. Gellir symud y gadair gydag olwynion, sy’n rhoi mwy o hyblygrwydd ac yn caniatáu i rai cleifion fynd y tu allan i wella eu hiechyd meddwl.

“Mae’r gadair wedi’i chydnabod, yn arbennig, fel budd i gleifion sy’n wynebu risg uchel iawn o dorri asgwrn oherwydd esgyrn brau ac sydd angen cyn lleied o drafod â llaw â phosibl.”

Yn y llun gyda’r gadair mae’r Ffisiotherapydd Scott Jakeman.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

Credyd i: elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle