Paentiad gan Rembrandt yn dod i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwil

0
426
Yn y llun mae (o'r chwith i'r dde) Ian Jones (Pennaeth Hamdden), Jane Knowles (Cyfarwyddwr Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Oriel Genedlaethol), Christine Riding (Prif Guradur, Oriel Genedlaethol), Cyng Gareth John, Morrigan Mason.

Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn cael benthyg y paentiad Saskia van Uylenburgh in Arcadian Costume gan Rembrandt van Rijn gan yr Oriel Genedlaethol o 14 Ionawr i 23 Ebrill.

Mae’n rhan o Daith Campweithiau yr Oriel Genedlaethol 2021-2023 ac mae mynediad am ddim i’r arddangosfa yn Abergwili.

Comisiynwyd darnau newydd gan Amgueddfa Sir Gaerfyrddin gan artistiaid ac awduron cyfoes a ysbrydolwyd gan y paentiad a gellir gweld y rhain ochr yn ochr ag ef. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith gan Julia Griffiths Jones, Mererid Hopwood, Jeanette Gray, a Leigh Chappell.

Paentiwyd ef yn 1635, ac mae’r portread hwn yn dangos gwraig yr artist pan oedd hi’n 23 oed, sef blwyddyn ar ôl iddynt briodi. Mae ei hwyneb yn fywiog ond mae’n anodd darllen ei mynegiant. Mae ei gwisg yn drawiadol ac mae’n dal toreth o flodau a ffon fugeiles. Weithiau gelwir y paentiad yn Saskia as Flora, a oedd yn thema boblogaidd yn y celfyddydau. Mae arwyddion ei bod hi’n disgwyl eu plentyn cyntaf.

Yn ystod y saith mlynedd y buont yn briod, cafodd Saskia dri o blant a fu farw’n ifanc iawn. Dim ond y pedwerydd plentyn, Titus, a dyfodd yn oedolyn. Ganed Titus yn 1641 a bu farw Saskia flwyddyn yn ddiweddarach. Felly, i Rembrandt, er iddo fyw bywyd yn ei holl gyflawnder am gyfnod, ni pharhaodd hyn – ac eithrio yn ei bortread o Saskia as Flora, duwies y gwanwyn.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, ac Aelod o’r Cabinet, “Mae Taith Campweithiau yr Oriel Genedlaethol wedi bod yn nodwedd wych o raglen Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ers iddi ailagor ychydig dros flwyddyn yn ôl, gan ddefnyddio dull hynod wreiddiol o ddangos sut y gall paentiadau sydd ganrifoedd oed ysbrydoli artistiaid a sbarduno trafodaethau am faterion sy’n bwysig heddiw.”

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, Tobias and the Angel, o weithdy Andrea del Verrocchio, yw’r trydydd campwaith, sef yr un olaf, sy’n dod i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Yn dyddio o 1470-5, mae tystiolaeth gref fod rhannau o’r paentiad gan Leonardo da Vinci a oedd yn un o fyfyrwyr Verrocchio. Gellir ei weld rhwng 8 Medi 2023 a 7 Ionawr 2024


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle