Cadw’n Ddiogel: Rhybudd Tywydd Melyn am Eira a Rhew

0
230

Mae Swyddfa’r Tywydd wedi cyhoeddi rhybuddion tywydd melyn am eira a rhew mewn rhannau o Gymru dros y dyddiau nesaf. 

Bob blwyddyn, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn mynychu cannoedd o wrthdrawiadau traffig, felly mae’r Gwasanaeth yn galw ar bawb i gymryd gofal ychwanegol wrth yrru yn yr amodau hyn.

Mae tywydd y gaeaf yn creu peryglon gyrru gwahanol, ond wrth wneud rhai newidiadau syml i arferion gyrru gall hyn lleihau’r tebygolrwydd o fod mewn gwrthdrawiad.  Dylai gyrwyr cofio’r pwyntiau canlynol wrth deithio:

  • Gwiriwch ragolygon y tywydd a newyddion traffig yn aml
  • Gadewch fwy o le rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen, efallai y bydd angen hyd at ddengwaith y pellter arferol ar gyfer brecio
  • Gwiriwch gyflwr eich teiars, eu gwadn a phwysedd aer gan gynnwys y teiar sbâr
  • Cadwch y ffenestr flaen yn glir a sicrhewch fod digon gennych ddigon o hylif golchi, cadwch ffenestri a drychau’n glir o eira, rhew a tharth

Yn ogystal â’r peryglon posib sy’n cael eu hachosi gan dymheredd is, mae rhai ardaloedd yn dal i ddioddef o lifogydd wrth i afonydd barhau i ymateb i’r glaw trwm diweddar.  Mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi ceisio croesi ffyrdd sydd dan ddŵr mewn unrhyw gerbyd ac i fod yn ymwybodol o’r peryglon, efallai y byddwch chi’n dod ar draws dŵr llonydd wrth yrru heb lawer o rybudd.

Yn ogystal ag amodau gyrru peryglus, mae hefyd yn bwysig i fod yn ymwybodol o’r peryglon posib yn y cartref yn ystod tywydd oerach.  Bobl blwyddyn ar draws y DU, mae tua 5,000 o danau yn cael eu hachosi gan flancedi trydan diffygiol, tra bod 12,000 o danau eraill yn digwydd o fewn simneiau.  Gall cymryd yr amser i ystyried diogelwch yn y cartref yn ystod y gaeaf helpu i ddiogelu eich hun rhag peryglon posib.

Gall rhai teimlo’n fwy unig yn ystod misoedd y gaeaf, a gallant gael trafferth gwybod pa ffordd i droi o ran aros yn ddiogel.  Gall y Gwasanaeth gynnig cymorth i’r bobl hynny yn y gymuned drwy ymweliad ‘Diogel ac Iach’ am ddim.  Ceir rhagor o wybodaeth am yr ymweliadau hyn, yn ogystal â sut i archebu ymweliad, trwy ymweld â’n gwefan neu trwy ffonio 0800 169 1234.

Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch y gaeaf i’w chael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle