A fyddech chi’n berffaith ar gyfer swydd ym maes gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar? Pum rheswm i ystyried rôl yn y sector hwn

0
231
Photo by Jason Sung on Unsplash

Mae’r flwyddyn newydd yn adeg o’r flwyddyn sy’n ysgogi pobl i fyfyrio ar agweddau mawr ar eu bywydau, gan gynnwys eu gyrfa. Efallai fod pobl ar draws y wlad yn cymryd amser i adolygu eu statws gwaith a chwilio am gyfleoedd ar gyfer dilyniant, datblygu sgiliau neu hyd yn oed newid llwyr. P’un a ydych yn ystyried newid gyrfa, neu’n chwilio am waith, gallai’r sector gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar ddarparu cyfle sy’n addas i chi. 

Mae Kelly Smith, cynghorydd gyrfaoedd yn Cymru’n Gweithio o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n gwasanaethu Canol De Cymru, yn ymuno â dau o bobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector i ddweud wrthym pam fod y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn werth eu hystyried.

  1. Mae galw am rywun fel ti

Dywed Kelly: “Yn ôl ffynhonnell data, Lightcast, mae’r galw am weithwyr gofal plant yng Nghymru yn parhau i gynyddu, gyda nifer y swyddi gwag ar-lein wedi cynyddu 65% dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Er enghraifft, roedd bron i 500 o swyddi ar gyfer nyrsys meithrin yn cael eu hysbysebu ar-lein ym mis Tachwedd 2022, ac rydym yn disgwyl i’r galw am y rolau hyn barhau i godi dros y blynyddoedd i ddod.

“Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod tua 20,000 o bobl yn gweithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd, mae yna brinder staff yn y sector, felly mae yna nifer o gyfleoedd y gallwch chi gymhwyso’ch sgiliau a’ch cymwysterau atyn nhw.”

  1. Mae’n amgylchedd i ddysgu a datblygu ynddo

Mae Braint Rees yn gydlynydd iaith a chyfathrebu gyda Chymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar Cymru (PACEY Cymru) ac mae wedi llwyddo i ennill cymwysterau hanfodol a chael dyrchafiadau wrth ennill cyflog.

Dywed Braint, sy’n dod o Abertawe: “Mae gweithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth mewn cynifer o ffyrdd.

“Penderfynais astudio fy nghymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, ac yna es i weithio fel cynorthwyydd meithrin am dair blynedd. 

“Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, dwi wedi bod mewn swydd yn y swyddfa, ac yn gynharach eleni, symudais i rôl ychydig yn ehangach yn cefnogi nid yn unig y Gymraeg ond hefyd gwaith yn ymwneud â chyfathrebu.

“Nawr rwy’n helpu i gefnogi gwarchodwyr plant eraill i dyfu eu hyder a’u busnesau.”

Mae Kelly yn ychwanegu: “Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael i’ch helpu chi i ennill cymwysterau, tebyg i Braint, i’ch galluogi i gael mynediad i’r sector neu symud ymlaen ynddo.”

  1. Gadewch i’ch angerdd a’ch personoliaeth ffynnu

Dywed Kelly: “Os ydych chi’n mwynhau gweithio gyda phlant, os oes gennych chi natur empathetig ac rydych yn mwynhau cefnogi eraill i ffynnu, mae’r sector hwn yn berffaith i chi.

“Mae pobl sy’n gweithio gyda phlant ifanc yn dueddol o fod yn ofalgar ac yn gadarnhaol, yn ogystal â bod yn llawn brwdfrydedd i annog, meithrin a dod â hapusrwydd i’w diwrnod.”

Mae Braint yn ychwanegu: “Roeddwn i’n gwybod fy mod bob amser eisiau gweithio gyda phlant o oedran ifanc iawn.

“Mae gen i lawer o gefndryd ifanc yr wyf yn gofalu amdanyn nhw yn eithaf rheolaidd ac rwy’n meddwl mai dyna le dechreuodd fy niddordeb a’m hangerdd am weithio gyda phlant. 

“Byddwn yn ei argymell yn llwyr.”

  1. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth

Phoebe Wilson yw swyddog hyfforddi arweiniol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ac mae’n angerddol am yr effaith gadarnhaol y mae ei swydd yn ei chael ar blant yn ei hardal leol.

Dywedodd Phoebe, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd: “Mae cymwysterau a sgiliau gwaith chwarae mor hanfodol wrth hwyluso chwarae plant i gefnogi eu hapusrwydd, eu llesiant a’u taith i fod yn bobl ifanc ac oedolion gwydn.

“Dwi’n teimlo’n freintiedig i allu cyflwyno’r cymwysterau hyn i eraill a chael effaith gadarnhaol ar filoedd o blant, yn ogystal â datblygu fy ngyrfa a’m cymwysterau fy hun.”

  1. Mae hyblygrwydd ar gyfer symud, gwneud cynnydd a dyrchafiad

Mae Kelly  yn dod i’r casgliad: “Fel y gwelwch o stori Braint, mae yna rolau gwahanol y gallwch chi eu gwneud unwaith y byddwch chi’n gweithio yn y sector. Yn ogystal â’r ystod eang o swyddi cyffrous sydd ar gael, mae llawer o gyfleoedd datblygu i allu tyfu a symud o gwmpas.

“Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu llawer o sgiliau trosglwyddadwy a hanfodol a fyddai’n berthnasol i lawer o rolau gwahanol o fewn y sector.”

Bu Phoebe yn gweithio mewn ychydig o rolau gwahanol cyn ei rôl bresennol ac mae’n dweud mwy wrthym am ei llwybr gyrfa: “Roeddwn yn gweithio mewn cynllun chwarae a sesiynau clwb ieuenctid lle gwnes i sylweddoli’n gyflym mai gyda’r plant hŷn yr oedd gen i angerdd i weithio. 

“Gwnes i gwblhau fy nghymwysterau mewn gwaith chwarae a gradd mewn gwaith ieuenctid a symud ymlaen fel cydlynydd ieuenctid, chwarae a datblygu cymunedol o fewn yr un sefydliad.

“Daeth rhywun ataf a gofyn i mi wneud rhywfaint o waith addysgu / hyfforddi yn rhan amser i gwmni hyfforddi ynghylch gwaith chwarae a gwaith ieuenctid. Gwnes i fwynhau rhannu fy ngwybodaeth a phrofiad gydag eraill yn fawr iawn, a chyn hir wedi hynny gwnes i gais llwyddiannus am fy swydd gyda Clybiau.”

Os ydych yn ystyried rôl mewn gofal plant, gwaith chwarae neu’r blynyddoedd cynnar, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael, gallwch drefnu i siarad â chynghorydd gyrfa yn Cymru’n Gweithio drwy ffonio 0800 028 4844, anfon e-bost at cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu ddefnyddio gwe-sgwrs ar y wefan.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle