Mae’r prosiect “CWBR Youth” yn falch iawn o fod wedi derbyn £20,000, yn dilyn cais llwyddiannus i Gynllun Grant ACES Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
Mae ACES, neu Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, yn ddigwyddiadau trawmatig, yn enwedig yn ystod plentyndod cynnar sy’n effeithio’n sylweddol ar iechyd a llesiant pobl yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae prosiect Ieuenctid CWBR yn gweithio i roi mwy o lais i bobl ifanc yn eu cymunedau, a bydd y fenter hon yn dod â Chynghorwyr Tref a Chymuned ynghyd â phobl ifanc leol i godi ymwybyddiaeth o ACES, a chydgynllunio ffyrdd y gallant helpu i fynd i’r afael â nhw; er enghraifft trwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer profiadau cadarnhaol a meithrin gwydnwch unigolion, teuluoedd a’r gymuned ehangach.
Esboniodd Tom Moses, Cydlynydd Prosiect Ieuenctid CWBR, “mae’r bobl ifanc mae Ieuenctid CWBR yn gweithio â nhw mewn cymunedau ar draws Sir Benfro wedi nodi’n gywir bod angen i ymgysylltiad ystyrlon â’u Cynghorau lleol fod yn bleserus ac yn hygyrch. Bydd y cyllid hwn yn helpu i fynd i’r afael ag ACES mewn chwe chymuned, gan ddod â Chynghorwyr a phobl ifanc ynghyd ar gyfer cyfres o brosiectau celf cymundeol, ddigwyddiadau a gweithgareddau. Bydd ymgysylltu cadarnhaol yn darparu’r sylfaen ar gyfer cysylltiad parhaus ac i leisiau pobl ifanc gael eu clywed yn fwy effeithiol, gan adeiladu cydlyniant cymunedol a mwy o wydnwch yn y tymor hir”.
Ychwanegodd Prif Weithredwr PLANED, Iwan Thomas, “Gan weithio gyda’n cymunedau a chyflawni ein Gweledigaeth o Rymuso Cymunedau, mae hyn yn golygu pob ardal a charfan o fewn y cymunedau hynny. Felly, rydym yn hynod ddiolchgar o gael y swm sylweddol hwn i weithio gydag ACES yma yn Sir Benfro trwy ein Prosiect Ieuenctid CWBR presennol llwyddiannus, sy’n dod â phobl ifanc, a’r cynrychiolwyr etholedig lleol hynny, ynghyd i sicrhau bod lleisiau cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu clywed, yn cael gwrandawiad ac yn cael eu cefnogi.”
Os hoffech chi fod yn rhan o brosiect ieuenctid CWBR neu www.planed.org.uk/projects/cwbr-youth/ neu cysylltwch â: Tom Moses (tom.moses@planed.org.uk)
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle