Canolfan Gwella Iechyd a Llesiant yn Llanelli

0
267

Sylwer: Newid lleoliad y digwyddiad galw heibio cyhoeddus y Ganolfan Gwella Iechyd a Llesiant yn Llanelli. Yn dilyn adborth, mae’r sesiwn galw heibio cyhoeddus a drefnwyd ar gyfer ddydd Mawrth 21 Chwefror 2023 wedi’i hadleoli o Ysbyty Tywysog Philip i Ganolfan Selwyn Samuel (Swît Lliedi), Cilgant y Parc, Llanelli SA15 3AE rhwng 2pm a 7pm.

Please note: Change of location for the Health Improvement and Wellbeing Centre in Llanelli public drop-in event. Following feedback, the planned public drop-in session on Tuesday 21 February 2023 has been relocated from Prince Philip Hospital to The Selwyn Samuel Centre (Lliedi Suite), Park Crescent, Llanelli SA15 3AE between 2pm and 7pm.

Bydd datblygiad Strategaeth Gwella Iechyd a Llesiant gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn nodi sut y bydd gwasanaethau iechyd lleol yn gweithio gyda phartneriaid, cymunedau, cleifion a’r cyhoedd i wella llesiant, mwynhau ffordd iach o fyw a mynd i’r afael â phrif achosion afiechyd ataliadwy a marwolaeth gynnar.

Fel rhan o hyn, cyflwynodd y bwrdd iechyd gais cynllunio ym mis Rhagfyr 2022 ar gyfer darparu Canolfan Gwella Iechyd a Llesiant yn Llanelli, a fydd yn cynyddu ystod a hygyrchedd gwasanaethau hanfodol ar gyfer y boblogaeth leol.

Bwriad y cyfleuster yw gwella iechyd a lles y gymuned a chenedlaethau’r dyfodol trwy ddarparu gwasanaethau arwahanol a chyfrinachol i’r gymuned leol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n dymuno ceisio cymorth gyda newid ymddygiad ffordd o fyw.

Roedd y cais cynllunio’n cynnwys lle ar gyfer tîm iechyd y cyhoedd Gwella Iechyd a Llesiant y bwrdd iechyd, y gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu, y gwasanaeth atal ac ymyrraeth gynnar i blant a phobl ifanc a ddarperir gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, gwasanaethau seicoleg i oedolion a phlant a Thîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol y bwrdd iechyd.

Dywedodd Joanna Dainton, Pennaeth Gwella Iechyd a Llesiant – Iechyd y Cyhoedd: “Bydd yr eiddo hwn yn galluogi darparu triniaethau ac ymyriadau atal gwell ac arloesol, lleihau marwolaethau, gwella iechyd a llesiant, lleihau trosedd a gwella diogelwch cymunedol.

“Mae’r bwrdd iechyd wedi archwilio lleoliadau posibl eraill, gan gynnwys yr hen orsaf heddlu yng nghanol y dref, ond mae wedi nodi Anchor Point fel yr eiddo mwyaf addas i’w ddatblygu.

“Mae canolfan gwella iechyd a llesiant newydd yn Llanelli yn hanfodol i strategaeth y bwrdd iechyd o symud o fod yn wasanaeth sy’n trin salwch, at fod yn wasanaeth sy’n hybu a chefnogi llesiant. Gan weithio gyda phartneriaid, cymunedau, cleifion a’r cyhoedd i alluogi ein cymuned i fwynhau ffordd iach o fyw a mynd i’r afael â phrif achosion afiechyd ataliadwy a marwolaethau cynnar.

“Mae ysmygu a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau ymhlith y prif achosion o afiechyd ataliadwy a marwolaethau cynnar ac mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn flaenoriaethau strategol i’r bwrdd iechyd ac aelodau’r Bwrdd Cynllunio Ardal.

“Yn yr un modd, bydd gwella gwydnwch plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiadau niweidiol yn sicrhau gwell canlyniadau iechyd a llesiant ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r gymuned leol ynghylch y datblygiad arfaethedig hwn.

Yn dilyn adborth, mae’r sesiwn galw heibio cyhoeddus a drefnwyd ar gyfer ddydd Mawrth 21 Chwefror 2023 wedi’i hadleoli o Ysbyty Tywysog Philip i Ganolfan Selwyn Samuel (Swît Lliedi), Cilgant y Parc, Llanelli SA15 3AE rhwng 2pm a 7pm.

Gall aelodau o’r cyhoedd ddod draw i drafod cynlluniau gyda staff a rheolwyr y ddarpariaeth gwasanaeth arfaethedig – bydd hyn yn cynnwys Heddlu Dyfed Powys, staff y Bwrdd Iechyd a darparwyr gwasanaethau trydydd sector.

Bydd rhagor o wybodaeth a chyfle i bobl rannu eu barn hefyd ar gael yn fuan drwy wefan www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk.

Ychwanegodd Joanna, “Rydym yn deall y gallai’r gymuned leol i Anchor Point ddymuno dysgu mwy am ein cynnig a’r gwasanaethau y bydd yn eu darparu.

“Rydym yn edrych ymlaen at drafod ein cynlluniau gyda’r gymuned yn y sesiwn galw heibio ym mis Chwefror ac rydym yn annog pawb a allai fod â diddordeb mewn deall mwy i fynychu.”

Mae Pwyllgor Datblygu Strategol a Chyflawni Gweithredol y bwrdd iechyd (16 Rhagfyr 2022) wedi ystyried y cynnig ac wedi cytuno iddo fynd i’r Bwrdd ffurfiol i’w gymeradwyo yn 2023


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle