Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer rhaglen i raddedigion y Cyngor

0
362

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am bobl frwdfrydig sy’n gadael y brifysgol i ymuno â’r rhaglen lwyddiannus i raddedigion ar gyfer 2023. 

Gan adeiladu ar lwyddiant ysgubol ein rhaglen flaenorol i raddedigion, mae’r cynllun dwy flynedd hwn yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous sy’n cyfuno profiad yn y swydd, datblygiad mewnol, a chymhwyster ôl-raddedig, er mwyn darparu cam cyntaf ardderchog tuag at yrfa lwyddiannus.

Mae’r cyfleoedd sydd ar gael yn cynnwys:

•            Datblygwr Meddalwedd Graddedig

•            Hyfforddai Graddedig Perfformiad a Busnes

•            Syrfëwr Adeiladu Graddedig x 2

•            Swyddog Perfformiad a Gwybodaeth Graddedig

•            Hyfforddai Graddedig (Strategaeth a Pholisi Gwastraff)

•            Swyddog Blaen-gynllunio (Hyfforddai Graddedig)

•            Peiriannydd Sifil / Cynllunydd Cludiant Graddedig

•            Hyfforddai Graddedig Datblygu a Gwella Gwasanaethau

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a’r Gweithlu: “Mae ein rhaglen lwyddiannus i raddedigion yn cynnig cyfleoedd cyffrous i’r rhai sy’n gadael y brifysgol gael profiad gwerthfawr a pharhau â’u haddysg mewn sefydliad deinamig a blaengar sy’n newid yn barhaus.

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â’n rhaglen, sy’n agored i bob oedran, a’n helpu i lunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn Sir Gaerfyrddin”.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ymgeisio, ewch i sirgar.llyw.cymru/swyddi-graddedigion


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle