Car newydd yn rhoi hwb i gefnogaeth hanfodol canolfan rhoddwyr llaeth i fabanod sâl a chynamserol

0
316

Bydd mwy o fabanod yng Nghymru yn elwa wrth i gerbyd trydan newydd gyrraedd sy’n cefnogi casgliadau llaeth gan roddwyr.

Y llynedd, fe wnaeth Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyhoeddi partneriaeth gyda’r Human Milk Foundation a welodd ganolfan llaeth gan roddwyr wedi ei sefydlu yng Nghymru am y tro cyntaf. 

Mae’r ganolfan, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Singleton Abertawe, yn caniatáu i fwy o fabanod sâl a chynamserol yn y rhanbarth i gael llaeth rhoddwr mewn unedau gofal dwys newyddenedigol. Mae hefyd yn galluogi menywod lleol i roi eu llaeth dros ben, llawer ohonynt nad ydynt wedi gallu gwneud hynny o’r blaen.

Bellach mae’r gwasanaeth yn ehangu, diolch i ddarpariaeth ddiweddaraf y prosiect – car trydan a fydd yn cefnogi dosbarthu a chasglu llaeth gan roddwyr ar draws de a gorllewin Cymru.

Wedi’i wneud yn bosibl gyda chyllid gan Gronfa Arloesedd Ymchwil Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol West Herts ac Elusen John Apthorp, bydd yr EV yn cael ei ddefnyddio i gludo symiau mwy o laeth rhoddwr i’r ganolfan ac oddi yno ac i brif bencadlys Hearts Milk Bank lle caiff ei basteureiddio a’i gludo a’i sgrinio. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fwy o famau roi llaeth, yn helpu i leihau ôl troed carbon y ganolfan, ac yn adeiladu gwytnwch yn y gwasanaeth.

Yr Athro Amy Brown, yw Cyfarwyddwr y ganolfan ymchwil ar gyfer Llaethiad, Bwydo Babanod ac Ymchwil Trawsfudol yn y Brifysgol ac mae’n yn hwyluso’r ganolfan yn Abertawe. Meddai: “Mae’r elusen Beiciau Gwaed Cymru, sy’n darparu gwasanaeth negesydd am ddim i’r GIG, yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i gludo llaeth rhoddwyr ar draws Cymru. Er hynny, mae beicwyr yn gyfyngedig o ran faint o laeth y gallant ei gario. Golyga’r EV y gallwn weithio ochr yn ochr â’n gilydd i gasglu rhoddion mwy neu luosog ar yr un pryd.”  

Dr Natalie Shenker, yw cyd-sylfaenydd yr Human Milk Foundation. Meddai: “Pan fydd babanod yn cael eu geni’n sâl neu’n rhy gynnar, mae cael llaeth dynol yn helpu i’w hamddiffyn rhag heintiau difrifol ac yn cefnogi eu twf a’u datblygiad.

“Yn aml mae’r babanod hyn yn cael eu geni’n rhy fuan i allu bwydo ar y fron ac mae angen eu bwydo â llaeth o’r fron. Os na all mam y babi ddarparu digon o’i llaeth ei hun am resymau iechyd neu oherwydd ei bod yn cael trafferth gwneud digon o laeth ar unwaith oherwydd genedigaeth anodd, gall llaeth rhoddwr fod yn bont sy’n rhoi amser a chefnogaeth i’r fam sefydlu cyflenwad llaeth ei hun. Heb garedigrwydd y rhoddwyr llaeth ni fyddai hyn yn bosibl, ac rydym yn falch iawn y bydd yr EV yn ei gwneud yn haws i roi llaeth yng Nghymru.”

Ychwanegodd yr Athro Brown: “Mae gennym dîm o wirfoddolwyr a fydd yn gyrru’r car i gefnogi’r gwasanaeth hwn sy’n newid bywydau. Ni fyddwch yn ei golli os bydd yn gyrru heibio i chi – fe’i cynlluniwyd yn arbennig gan ddefnyddio lliwiau indigo a gwyn bywiog HMF, yn cynnwys cydrannau llaeth dynol ac arwyddlun yr elusen o lili wen fach, a elwir yn flodyn llaeth.

“Mae blodyn lili wen fach yn cynrychioli cariad a gobaith a defnyddir y blodyn i anrhydeddu’r mamau arbennig sy’n dewis rhoi llaeth i helpu teuluoedd eraill yn dilyn marwolaeth babi.”

Argraffwyd dyluniad y car gan bartner elusen y Human Milk Foundation, Epson UK, a’i lapio’n gynaliadwy gan ddefnyddio inc resin dŵr a chyfryngau di-PVC.

Paul Harvey yw rheolwr llaeth Beiciau Cymru. Meddai: “Mae Beiciau Gwaed Cymru yn falch iawn i gefnogi, a bod yn gysylltiedig â Hwb Llaeth Singleton a hoffai longyfarch y Human Milk Bank a Phrifysgol Abertawe ar gaffaeliad gwych eu car trydan newydd.”

Ers lansio’r ganolfan, mae mwy na 100 o fenywod wedi rhoi mwy na 250 litrau o laeth. Yn eu plith mae Gayatri Cook, o Sir Gâr. Meddai: “Mae tîm Hearts Milk Bank yn dîm gwych, cyfeillgar a chefnogol. Mae’n wych bod gennym ganolfan llaeth rhoddwyr yn Abertawe nawr. 

“Rwy’n cael teimlad hyfryd pan fydd y llaeth a roddais yn cael ei gasglu gan wirfoddolwyr bendigedig y Beiciau Gwaed, ac mae’n cyrraedd y ganolfan mewn llai nag awr. Mae’n golygu llawer i mi bod y llaeth rwy’n ei roi yn cael ei ofalu amdano ac y bydd o fudd i unrhyw fabis a allai fod ei angen.”

Dywedodd Katie Taylor, rheolwr gwasanaethau gwirfoddol y bwrdd iechyd: “Bydd gwirfoddolwyr yn cyflawni rôl hynod bwysig wrth gefnogi gyda mwy o gasgliadau a danfoniadau. Golyga hyn bod llaeth rhoddwr yn cyrraedd hyd yn oed mwy o fabanod sydd mewn angen. Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a ddarperir gan wirfoddolwyr y Human Milk Foundation, byddant yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”

Dewch i ddraganfod mwy am waith Human Milk Foundation a Beiciau Llaeth Cymru ac os hoffech ddod yn rhoddwr, e-bostiwch info@heartsmilkbank.org


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle