Cyngor yn lansio Rhaglen Drawsnewid newydd

0
296
Arms of Carmarthenshire County Council

 Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ei Raglen Drawsnewid a fydd yn newid y ffordd y mae’r awdurdod yn defnyddio llawer o’i adnoddau er mwyn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.

Cafodd y rhaglen uchelgeisiol, sy’n adeiladu ar y gwaith trawsnewid a wnaed eisoes gan yr awdurdod dros y 10 mlynedd diwethaf, ei chymeradwyo gan Aelodau’r Cabinet heddiw (13 Chwefror).

Bydd y rhaglen yn amlinellu sut y mae’r awdurdod yn bwriadu symud ymlaen i roi mwy o werth a buddion i breswylwyr a busnesau yn y sir a bydd hefyd yn ceisio cyflymu ymhellach y broses o foderneiddio ar draws y cyngor, gan ganiatáu iddo ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol o ansawdd uchel mewn amgylchedd heriol.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y rhaglen yn buddsoddi ymhellach yn staff, adeiladau a thechnoleg yr awdurdod er mwyn creu arferion gwaith mwy modern a chyflymu prosesau.

Ymhlith y blaenoriaethau sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen mae: datblygu strategaeth fasnachol ar gyfer y sefydliad; gweithredu ystod o brosiectau sydd wedi’u cynllunio i foderneiddio prosesau, gwella cynhyrchiant a lleihau papur, argraffu a phostio; rhesymoli portffolio llety’r Cyngor ymhellach a moderneiddio a gwella’r amgylchedd gwaith o fewn yr adeiladau craidd sy’n weddill a pharhau i gefnogi ysgolion i nodi effeithlonrwydd posibl a ffyrdd gwell o weithio.

Bydd y Rhaglen Drawsnewid yn bwydo Strategaeth Gorfforaethol newydd y cyngor – gweledigaeth y cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf o dan y weinyddiaeth newydd a oedd hefyd heddiw wedi ei gadarnhau gan Aelodau’r Cabinet. Bydd y Strategaeth Gorfforaethol bellach yn mynd i’r Cyngor Llawn i’w chymeradwyo’n derfynol ar 1 Mawrth, 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb dros Drefniadaeth a’r Gweithlu: “Rwy’n croesawu’r Rhaglen Drawsnewid hon, a fydd yn helpu’r ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn gweithio, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod yn flaengar a gwella a moderneiddio ein gwasanaethau, nid yn unig ar gyfer preswylwyr a busnesau’r sir ond hefyd i’n staff.”

Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Drawsnewid y Cyngor ar gael ar wefan y Cyngor sirgar.llyw.cymru/strategaeth-drawsnewid


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle