Mae Philippa Evans o Hwlffordd wedi codi £1,432 ar gyfer Ward 12, y ward dementia yn Ysbyty Llwynhelyg.
Ymgymerodd Philippa, Ymarferydd Cymorth Gofal Iechyd mewn Therapïau Seicolegol Integredig, â’r her o gwblhau 40 sesiwn nofio dŵr oer i godi arian i’r ward, lle cafodd ei thad gymorth a gofal anhygoel.
Cwblhaodd Philippa ei sesiynau nofio ar draethau ar draws Sir Benfro gan gynnwys Aberllydan, Aber Bach, Abergwaun ac Angl.
Dywedodd Philippa: “Toddodd fy nghalon pan gerddais i mewn i’r ystafell a gweld y cleifion yn gwylio ffilm ar y taflunydd a brynwyd gyda’r arian.
“Roedd hefyd yn wych gweld yr eitemau synhwyraidd, sydd bellach ar gael i bawb eu defnyddio ar y ward. Byddai fy nhad wedi bod mor falch, roedd y 40 sesiwn nofio yn werth chweil.”
Dywedodd Chloe Morgan, Prif Nyrs Iau: ”Mae’r arian y mae Philippa wedi’i godi ar gyfer Ward 12 er cof am ei thad wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i ofal cleifion, gan sicrhau bod gennym ni weithgareddau ac offer i ysgogi ein cleifion.
“Diolch gan bob aelod o’r tîm am helpu i wella profiad cleifion ar Ward 12.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle