Diwrnod Llyfr y Byd 2023

0
402
Credit National Literacy Trust

Annwyl Olygydd

Gyda Diwrnod Llyfr y Byd ar y gorwel, yma yn RNIB Cymru, rydyn ni wedi bod yn brysur yn sicrhau bod plant ledled Cymru sy’n byw gyda cholled golwg yn gallu mwynhau darllen y gyfres o lyfrau am ddim eleni mewn fformat sy’n hygyrch iddyn nhw.

Mae 13 o lyfrau i ddewis o’u plith, ac rydyn ni wedi ymuno â’r ymgyrch swyddogol i sicrhau eu bod ar gael mewn fformatau braille a sain, fel bod pob plentyn yn gallu eu mwynhau, dim ots beth yw lefel eu golwg.

Mae’r detholiad eleni yn cynnwys llyfrau gwych gan ffefrynnau teuluol, gan gynnwys Lenny Henry, Adam Kay a Joe Wicks, felly mae pawb yn siŵr o ddod o hyd i lyfr y byddan nhw’n ei hoffi!

I blant sydd eisiau darllen y gyfrol Gymraeg eleni, byddwch yn falch o glywed ein bod ni wedi cynhyrchu fersiynau sain a braille o Gwisg Ffansi Cyw gan Anni Llŷn. Mae’r llyfr yma’n rhan o gyfres boblogaidd Cyw ac wedi ei anelu at ddarllenwyr iau.

Os hoffai unrhyw un o’ch darllenwyr chi weld y rhestr lawn o lyfrau, gallant fynd i worldbookday.com/books a gofyn am lyfr mewn fformat hygyrch am ddim, ffoniwch ni ar 0303 123 9999.

Yn gywir,

Ansley Workman

Cyfarwyddwr RNIB Cymru

Cwrt Jones, Stryd Womanby, Caerdydd, CF10 1BR

07917 264 803


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle