Saith swydd yn y sector gofal cymdeithasol sy’n chwilio am ymgeiswyr ym Mhowys ar hyn o bryd – ac efallai y cewch chi’ch synnu beth yw’r swyddi hyn

0
236

Mae’r sector gofal cymdeithasol yn cynnig amrywiaeth eang o swyddi lle mae galw mawr am ymgeiswyr ar draws Cymru ar hyn o bryd, ac mae rhai ohonynt yn fwy annisgwyl nag y byddech yn ei feddwl.

Mae dros 76,600 o bobl yn gweithio mewn rolau gofal cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd, sy’n cynrychioli 6% o’r gweithlu cyfan.1

Mae’r sector yn gweld cynnydd cyson mewn cyfleoedd oherwydd bod angen gofal ar fwy o bobl yn ein cymunedau, ac ar gyfartaledd, mae tua 5,800 o swyddi gwag gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu hysbysebu ar-lein bob mis.2

Yn Sir Fynwy a Chasnewydd, mae 5,592 o bobl yn cael eu cyflogi mewn rolau gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.3 Ar gyfartaledd, mae 238 o swyddi gwag newydd bob blwyddyn yn y sector.4

Efallai nad yw rhai o’r swyddi hyn yn nodweddiadol o’r hyn y mae pobl yn meddwl amdanynt o fewn gofal cymdeithasol, ac maent yn cynnwys y rolau a nodir isod.

  1. Gweithiwr ieuenctid

Mae gweithwyr ieuenctid yn cynorthwyo datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc, gan eu helpu i gyflawni eu potensial. Maent yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth, ac yn hyrwyddo datblygiad trwy weithgareddau cymdeithasol a hamdden. Gyda chyflog cychwynnol nodweddiadol o £19,000, gall gynyddu i ryw £40,000 gyda chyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Hysbysebwyd 132 o swyddi gweithwyr ieuenctid newydd yng Nghymru yn ystod y 30 diwrnod diwethaf.5

  1. Cwnselydd

Fel cwnselydd, gallwch helpu pobl i archwilio anawsterau, trallod neu golli cyfeiriad yn eu bywydau. Mae’r swydd hon yn addas ar gyfer pobl sy’n ddigynnwrf, sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol a diddordeb yn y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn. Hysbysebwyd 1306 o swyddi cwnselwyr newydd yng Nghymru dros y mis diwethaf, ac mae cyflogau fel arfer rhwng £22,000 a £26,500.

  1. Swyddog prawf

Mae pobl yn y swyddi hyn yn gweithio gyda throseddwyr i’w hannog i fyw bywyd sy’n parchu’r gyfraith. Maent yn eu goruchwylio cyn eu treial, yn ystod cyfnod yn y carchar neu yn ystod dedfryd gymunedol, ac ar ôl eu rhyddhau. Gall swyddogion prawf ennill hyd at £36,000 gyda phrofiad, a gall y swydd fod yn ddewis ardderchog i bobl sy’n gallu bod yn bendant a mynegi eu hunain yn hyderus, ac sydd â sgiliau rhyngbersonol da.

  1. Cynorthwyydd gofal ambiwlans

Mae cynorthwywyr gofal ambiwlans yn ymdrin â chludiant arferol, di-argyfwng cleifion i’r ysbyty ac oddi yno. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar drwydded yrru lawn, a byddai’r rôl yn addas ar gyfer pobl sy’n gyfeillgar, gofalgar, amyneddgar, ac sydd ag ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb. Yr oriau gwaith ar gyfer y swyddi hyn fel arfer yw rhwng 8am a 6pm.

  1. Swyddog tai

Os byddwch yn dod yn swyddog tai, byddech yn cynllunio darpariaeth tai mewn ardal benodol. Mae hyn yn cynnwys dyrannu tai, asesu rhent teg a goruchwylio staff. Dros y 30 diwrnod diwethaf, hysbysebwyd dros 3907 o swyddi yng Nghymru. Er bod angen cymhwyster cysylltiedig ac aelodaeth o’r Sefydliad Tai Siartredig yn aml, mae yna lwybrau ‘ennill wrth ddysgu’ i astudio ar gyfer gradd sylfaen wrth weithio. Os ydych am ddilyn yr yrfa hon, byddai datblygu sgiliau cyfathrebu, trafod a datrys problemau yn ddefnyddiol.

  1. Gweithwyr cymdeithasol a chynorthwywyr gwaith cymdeithasol

Fel un o’r rolau mwyaf adnabyddus o fewn y sector, mae gweithwyr cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo plant a theuluoedd drwy gyfnodau anodd a diogelu pobl agored i niwed rhag niwed. Gall gwaith gynnwys sifftiau a gwaith nos, gyda chyflogau yn dechrau ar £24,000 ac yn codi hyd at £40,000. I gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghymru, rhaid i chi gwblhau cwrs a gymeradwyir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, a fydd yn cynnwys dysgu academaidd ac ymarferol. Mae galw cyson am weithwyr cymdeithasol, a dros y mis diwethaf yn unig hysbysebwyd dros 5308 o swyddi.

  1. Gweithwyr gofal

Fel un o’r swyddi â’r galw mwyaf yng Nghymru, gall swyddi gofalu amrywio rhwng cynorthwyydd gofal cychwynnol, hyd at reolwyr cartrefi gofal. Gan helpu i ofalu am bobl na allant ymdopi â thasgau o ddydd i ddydd ar eu pen eu hunain, mae gweithwyr gofal fel arfer yn dosturiol iawn, yn amyneddgar ac yn ystyriol, ac maent yn meddu ar y gallu i siarad a gwrando ar bobl o bob cefndir.

Dywedodd Mandy Ifans, pennaeth cyngor cyflogaeth Cymru’n Gweithio: “Gall gweithio ym maes gofal cymdeithasol fod yn un o’r gyrfaoedd mwyaf gwerth chweil sydd i’w cael.

“Mae cyflogwyr gofal cymdeithasol yn chwilio am bobl sydd ag agwedd gadarnhaol ac empathi, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, cynllunio a gwaith tîm.

“Mae yna lawer o opsiynau gwahanol ar bob lefel i bobl eu harchwilio o fewn y sector.

“Mae rolau lefel mynediad yn amrywio o’r rhai sy’n cynnig gwaith cyflogedig wrth astudio ar gyfer cymhwyster, i swyddi cychwynnol delfrydol ar gyfer graddedigion prifysgol. Mae cyfleoedd ar gyfer pobl brofiadol sy’n newid gyrfa ac mae rolau sy’n gofyn yn syml am bobl â’r bersonoliaeth gywir.

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n chwilio am waith, neu sy’n ystyried newid gyrfa i’r sector gofal cymdeithasol, i gysylltu a threfnu apwyntiad gyda chynghorydd gyrfaoedd.

“Bydd yn gallu trafod eich opsiynau gyda chi ac edrych ar y camau nesaf.”

I ddarganfod mwy neu i weld a allai gweithio ym maes gofal cymdeithasol fod yn addas i chi, ewch i dudalen gofal cymdeithasol Cymru’n Gweithio, ffoniwch 0800 028 4844, neu defnyddiwch y sgwrs fyw ar y wefan. Gallwch hefyd ymuno â’n digwyddiad swyddi gofal cymdeithasol byw ar Twitter yn @WorkingWales ar 21 Chwefror rhwng 2pm a 4pm, lle gallwch ddarganfod rhai o’r swyddi gwag sydd ar gael ar draws Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle