Mae arbenigwyr o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ysbrydoli plant ysgol lleol i dyfu hadau o goeden a lwyddodd i oroesi’r bom atomig a ddisgynnodd ar Hiroshima ym 1945.
Mae pump o blant o ysgol Gwaun Cae Gurwen wedi ymweld â’r Ardd Fotaneg i blannu hadau o goeden gingko a oedd yn tyfu ychydig dros 1,000 o fetrau o’r man lle ffrwydrodd y bom.
Cyflwynwyd yr hadau gan bobl Hiroshima i Awel Awen Tawe, cymdeithas gymunedol yn Nyffryn Aman sydd ar hyd o bryd yn adeiladu canolfan gelfyddydau ac addysg ddi-garbon yng Nghwm-gors – Hwb y Gors.
Bydd y coed yn cael eu plannu yn yr ardd yn Hwb y Gors fel arwydd o heddwch ac adnewyddu.
Dywedodd Ayshea Cunniffe-Thomas , yr uwch arddwraig: “Mae’n bleser bob amser gallu trosglwyddo sgiliau allweddol hau a thyfu, yn enwedig gyda phrosiect arbennig.
“Roedd y plant yn gwrando’n astud, a gwnaethant waith gwych yn plannu’r hadau. Ond cawsom amser hefyd i gael hwyl a mynd ar daith o gwmpas yr Ardd,” meddai Ayshea.
Rheolwr y Prosiect yn Hwb y Gors yw Emily Hinshelwood, ac meddai hi: “Cawsom daith ddifyr i’r Ardd Fotaneg. Bu pump o arddwyr ifanc brwdfrydig yn plannu’r hadau ac yn mwynhau taith o gwmpas y Tŷ Gwydr Mawr.
“Mae’n addas iawn mai’r genhedlaeth ifanc ddylai fod yn plannu’r hadau, a rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld yr egin ifanc hyn yn ffynnu.
“Bu’r disgyblion hefyd yn plannu hadau o goeden Cas Gan Fwnci (monkey puzzle) hen iawn a oedd yn tyfu yn Aberhonddu.”
Meddai Louise Griffiths, y swyddog ymgysylltu yn Hwb y Gors: “Hwn yw dechrau prosiect yr ardd yn Hwb y Gors, a bydd y coed Cas Gan Fwnci yn edrych yn arbennig yn yr ardd. Gwnaeth y disgyblion waith arbennig yn plannu’r hadau, ac maen nhw’n awyddus iawn i ddod nôl i’r Ardd Fotaneg yn y gwanwyn.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymestyn ymhellach ein cysylltiadau gydag ysgol Gwaun Cae Gurwen a’r Ardd Fotaneg.”
Mae hadau o’r ‘hen’ goed yn cael eu dosbarthu ar draws y byd gan y prosiect Green Legacy Hiroshima sydd â’i ganolfan yn y ddinas yn Siapan. Daw’r hadau roedd y disgyblion yn eu plannu o goeden Ginkgo biloba a oedd y tyfu wrth ymyl Teml Hosenbo, prin 1,120m o safle’r ffrwydriad.
Mae’r Ardd Fotaneg hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect Green Legacy Hiroshima, ac mae’n plannu hadau ei hun i gefnogi neges y prosiect o heddwch a’i threftadaeth werdd.
- Am fwy o wybodaeth cysylltwch â David Hardy yn Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
- Mae rhagor o wybodaeth am Awel Aman Tawe yng Nghwmllynfell ger Abertawe i’w chael yma: https://egni.coop/
- I gael gwybod rhagor am Green Legacy Hiroshima ewch i https://glh.unitar.org/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle