Yr elusen Gymreig yn cymryd camau tuag at ddyfodol cynaliadwy.

0
252
From left to right - Georgia Jones from the Pembrokeshire Coast National Park Authority, James Cordell and Janice John from St John Ambulance Cymru, and Hollie Phillips from the Port of Milford Haven.

Canolfan Gymunedol a Hyfforddiant St John Ambulance Cymru yn Hwlffordd yw canolfan hyfforddi gyntaf yr elusen i gyflwyno pŵer solar. Mae symud i ynni solar ar gyfer adeilad Hwlffordd yn un yn unig o’r ffyrdd y mae St John Ambulance Cymru yn lleihau ei ôl troed carbon ac yn gofalu am yr amgylchedd.

Gyda’r nod o ddod yn garbon niwtral erbyn 2035, a nodir yn Strategaeth St John Ambulance Cymru 2025, mae’r elusen yn cymryd camau gweithredol i leihau ei hôl troed carbon ac mae eisoes wedi cyflwyno cerbydau hybrid i’w fflyd Ymateb i Gwympiadau, fel rhan o gynlluniau uchelgeisiol i gyfyngu ar ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r paneli solar sydd wedi’u gosod yn Hwlffordd yn ddiweddar diolch i ddau gynllun ariannu lleol; ‘Cronfa Datblygu Cynaliadwy’ Awdurdodau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a ‘Chronfa Ynni Gwyrdd’ Porthladd Aberdaugleddau. Mae’r ddau sefydliad wedi ymrwymo i helpu prosiectau a arweinir gan y gymuned leol sy’n anelu at leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd ynni.

Dywedodd James Cordell, Rheolwr Cefnogi Sirol Sir Dyfed: “Rwyf wrth fy modd gyda’r prosiect paneli solar hwn. Mae gosod paneli solar yn ein canolfan yn Sir Benfro yn ein helpu i gymryd cam mawr ymlaen gyda ‘going green’ yn lleol, bod yn fwy cynaliadwy a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Bydd yr arian rydym yn ei arbed ac yn ei gynhyrchu drwy werthu pŵer dros ben i’r Grid Cenedlaethol yn ein helpu i ddatblygu ein cenhadaeth o achub bywydau a gwella iechyd a lles cymunedau Cymru.”

Dywedodd Nichola Couceiro, Pennaeth Codi Arian, Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn St John Ambulance Cymru hefyd: ‘Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’n cyllidwyr grantiau hael, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau, hebddynt. ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosibl. Edrychwn ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am yr effaith wych y bydd y paneli solar hyn yn ei chael.”

I ddarllen Strategaeth lawn St John Ambulance Cymru 2025, ewch i www.sjacymru.org.uk/strategy-2025.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle