Cyngor Sir Caerfyrddin yn erlyn perchennog busnes adeiladu a thirlunio o Rydaman

0
317
Arms of Carmarthenshire County Council

Mae Cyfarwyddwr Sibley’s Solutions Ltd yn Rhydaman wedi cael dedfryd ohiriedig o garchar yn dilyn ymchwiliad gan dîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Plediodd James Sibley yn euog i droseddau o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 yn Llys y Goron Abertawe am bum achos gwahanol lle cytunodd i wneud gwaith adeiladu/tirlunio, a derbyniodd gyfanswm o £34,290.77 gan ei ddioddefwyr am y gwaith hwnnw. 

Roedd y gwaith a wnaed o ansawdd gwael iawn ac mewn rhai achosion ychydig iawn o waith a wnaed, neu ddim gwaith o gwbl, er bod y dioddefwyr wedi talu am y gwasanaethau hyn.

Dedfrydodd y Llys Sibley i:

  • 16 wythnos o garchar, wedi’i ohirio am 12 mis 
  • 100 awr o waith di-dâl 
  • £12,000 o iawndal i’w rannu rhwng y pum dioddefwr 
  • Cael ei wahardd rhag bod yn Gyfarwyddwr y Cwmni am 4 blynedd

Meddai’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Safonau Masnach: “Honnodd James Sibley ar gam ei fod yn grefftwr proffesiynol ac rwy’n falch bod ein tîm Safonau Masnach wedi cael canlyniad cadarnhaol i’w ddioddefwyr. 

“Pan fyddwch yn gofyn i rywun wneud gwaith yn eich cartref, byddwch yn wyliadwrus bob amser, gwnewch ymchwil cyn ymrwymo i unrhyw gytundeb a byddwch yn ofalus wrth dalu arian ymlaen llaw. 

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n chwilio am grefftwr i wneud gwaith yn eu cartref i ddefnyddio’r cynllun Prynu â Hyder i ddod o hyd i fasnachwr a gymeradwywyd gan Safonau Masnach. Mae pob busnes a restrir gyda ‘Prynu â Hyder’ wedi llwyddo mewn nifer o wiriadau er mwyn ichi fod yn dawel eich meddwl eich bod yn dewis busnes dibynadwy i wneud y gwaith.” 

Wrth ddewis masnachwr i wneud gwaith yn eich cartref, dilynwch yr awgrymiadau hyn:

  • Sicrhewch eich bod yn cael o leiaf dri dyfynbris i gymharu prisiau 
  • Peidiwch â thalu’n llawn nes bydd y gwaith wedi’i gwblhau a’ch bod yn fodlon ar y safon orffenedig 
  • Sicrhewch eich bod yn cael manylion am y gwaith yn ysgrifenedig 
  • Gofynnwch i’r Cyngor os nad ydych yn siŵr a fydd angen cael caniatâd cynllunio/rheoliadau adeiladu ar gyfer y gwaith
  • Cymerwch eich amser. Peidiwch â gadael i neb eich brysio i wneud penderfyniad
  • Os ydych yn cytuno ynghylch contract yn eich cartref, efallai y bydd gennych gyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod. 

Ewch i wefan y Cyngor i weld masnachwyr a gymeradwywyd gan Safonau Masnach. 

https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/safonau-masnach/prynwch-efo-hyder


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle