Mae astudiaeth cyswllt data poblogaeth syân defnyddio cofnodion iechyd gofal sylfaenol ac eilaidd yn datgelu bod llai o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o gyflyrau hirdymor naâr disgwyl yn 2020 a 2021.
Cynyddodd cyfraddau diagnosis dros y cyfnod o 2 flynedd ond ar gyfer y rhan fwyaf o gyflyrau, roeddent yn parhau i lusgo y tu Ă´l i ddisgwyliadau ar ddiwedd 2021. Awgryma hyn dagfeydd posibl o gleifion heb ddiagnosis sy’n annhebygol o fod yn cael eu monitro a’u rheoli’n systematig ar gyfer eu cyflyrau.
Arweiniwyd yr astudiaeth gan ymchwilwyr o Wyddoniaeth Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chanolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan PRIME Cymru.
Ymhlith y cyflyrau yr effeithiwyd arnynt fwyaf roedd clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac anhwylderau gorbryder a oedd yn cyfateb i fwy na 30 ac 80 o ddiagnosis âar gollâ mewn practis cyffredinol nodweddiadol o 10,000 o gleifion, yn y drefn honno.
Gall fod gan bractis o’r fath dros 400 o ddiagnosisau coll ar draws yr 17 cyflwr a astudiwyd. Ni chanfu ymchwilwyr unrhyw wahaniaethau nodedig yn nodweddion demograffig-gymdeithasol y cleifion a gafodd ddiagnosis cyn ac ar Ă´l pandemig megis oedran, rhyw ac ethnigrwydd.
Bydd ail gam yr ymchwil yn adeiladu ar y gwaith hwn i ymchwilio i effaith Covid ar batrymau defnyddio adnoddau gofal iechyd (HRU) ar gyfer cleifion â chyflyrau hirdymor.
Cynhaliodd tĂŽm yr astudiaeth, astudiaeth gysylltu data poblogaeth gan ddefnyddio data gofal sylfaenol ac eilaidd o fewn Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Nodwyd bod 2,257,992 o unigolion yn byw yng Nghymru wedi cael diagnosis am y tro cyntaf gydag unrhyw un o 17 o gyflyrau hirdymor rhwng Ionawr 1, 2000 a Rhagfyr 31, 2021.
Gan gymharu cyfraddau diagnosis pob cyflwr rhwng 2020 a 2021 â disgwyliadau a ragwelir yn seiliedig ar gyfraddau rhwng 2015 a 2019, fe wnaeth ymchwilwyr amcangyfrif y gwahaniaeth rhwng cyfanswm nifer y diagnosisau disgwyliedig a’r rhai a gofnodwyd dros y cyfnod o ddwy flynedd.
Datgelaâr ymchwil hwn tagfeydd posibl o gleifion heb ddiagnosis sydd â chyflyrau hirdymor lluosog yng Nghymru sydd angen adnoddau i fynd iâr afael â llwyth gwaith a ragwelir fel rhan o adferiad COVID-19, yn enwedig mewn gofal sylfaenol.
âMaeâr astudiaeth hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar yr effeithiau ehangach y mae pandemig COVID-19 wediâu cael ar bobl, cymunedau aâr GIG yng Nghymru,â dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Athro Polisi a Rheolaeth Iechyd. âDengys partneriaethau ymchwil fel hyn nid yn unig gwerth enfawr cydweithredu mewn ymchwil ond hefyd yr ystod o fanteision a gynigir trwy wneud defnydd llawn o ddata a gesglir yn rheolaidd. O fis Ebrill eleni, bydd Canolfan Dystiolaeth Cymru, sydd newydd ei hehangu, yn cyflawni cylch gwaith ehangach, gan fynd iâr afael â materion allweddol syân flaenoriaeth ym meysydd iechyd, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol.â
Ychwanegodd cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL, yr Athro Ronan Lyons, âMae Banc Data SAIL wedi bod yn arf annatod ar gyfer monitro trosglwyddiad ac effeithiau hirdymor y pandemig ers iddo ddod i’r amlwg gyntaf. Dros y 15 mlynedd diwethaf, maeâr timau yn SAIL a Gwyddor Data Poblogaeth, ynghyd ag eraill ar draws cyrff iechyd y cyhoedd yng Nghymru, wedi gweithioân galed i ddatblygu ein rhwydwaith aân galluoedd. Mae hyn wedi ein galluogi i
ymateb yn gyflym ac yn effeithiol iâr argyfwng iechyd hwn. Fel rhan oâr cydweithio hwn yn Cymruân Un, mae ein gwaith ymhell o fod wedi gorffen wrth i ni barhau i fonitro ac asesu effaith COVID-19 ar draws Cymru a sicrhau ein bod yn dysgu oâr profiad hwn ac yn gwella ymhellach ein cyd-ddatrysiad aân gwybodaeth ar gyfer argyfyngau iechyd yn y dyfodol.â
Meddai Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, âMae hwn yn faes ymchwil hanfodol i leihau bylchau mewn anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu ariannu a chefnogi’r ymchwil hwn ochr yn ochr â’n partneriaid cydweithio ymroddedig yn y tĂŽm Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe.ââ
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle