Mae Academi Bentisiaeth Hywel Dda unwaith eto wedi agor ei drysau i unrhyw un sydd am ymuno â’r GIG – gallai hyn fod yn gyfle i chi wneud gwahaniaeth i ofal iechyd lleol.
Mae rhaglen newydd yr Academi wedi’i chynllunio i ddarparu cyfleoedd i’n poblogaeth leol sydd eisiau g weithio ym maes gofal iechyd ond sydd efallai heb y cymwysterau priodol neu sydd mewn sefyllfa i ennill cymwysterau.
Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein rhaglen prentisiaethau wedi dychwelyd eto eleni; mae’n gyfle gwych i bobl sydd eisiau gweithio yn y GIG a datblygu eu gyrfa.
“Mae ein rhaglenni prentisiaeth hefyd yn cynnwys rolau anghlinigol, fel profiad y claf, gwasanaethau digidol, llywodraethu corfforaethol, gyda llawer mwy yn cael eu datblygu.”
Fel prentis bwrdd iechyd, byddwch yn derbyn dysgu seiliedig ar waith strwythuredig, a fydd yn eich galluogi i ddysgu wrth ennill, ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Gall prentisiaethau gymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i’w cwblhau ac maent ar gael i unrhyw un 16 oed a hŷn. Yn ogystal â bod yn y gweithle, byddwch yn mynychu coleg neu ganolfan hyfforddi i weithio ar eich cymwysterau.
Yn ddiweddar dyfarnwyd yr Academi yn enillydd y categori “Cynllun Prentisiaeth Gorau” yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) Cymru eleni.
Ymunodd Sian Thomas-Davies â’r cynllun yn 2021 fel Prentis Gofal Iechyd yn Ysbyty Glangwili a dywedodd: “Mae wedi rhoi ystod o gyfleoedd i mi yn fy ngweithleoedd i wella fy sgiliau a gwybodaeth. Wrth wneud hyn rwyf wedi cyfarfod ag unigolion anhygoel gan gynnwys cynorthwywyr gofal iechyd a nyrsys, sydd wedi fy ysbrydoli i barhau i wella fy sgiliau bob dydd a dod yn fwy hyderus yn yr hyn rwy’n ei wneud. Mae hefyd wedi fy ngalluogi i wella fy sgiliau gwaith tîm gan fod llawer o gyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a gweithio fel rhan o dîm a theimlo’n rhan o hyn.”
Ychwanegodd Lisa: “Os ydych chi’n credu y gallai’r cyfle gwerth chweil hwn fod ar eich cyfer chi, ewch i’n tudalen we i gael mwy o wybodaeth a sut i gysylltu â ni.”
Rhestrir Digwyddiadau Gwybodaeth Prentis Gofal Iechyd isod:
• 27 Mawrth 2023 – Coleg Sir Gâr, Campws y Graig, Llanelli (4.30-7.00pm)
• 29 Mawrth 2023 – Coleg Sir Benfro, Hwlffordd (4.00-7.00pm)
• 30 Mawrth 2023 – Coleg Ceredigion, Campws Llanbadarn, Aberystwyth (2.30-5.30pm)
Dilynwch sianeli cyfryngau cymdeithasol y bwrdd iechyd i gael diweddariadau ar ymgyrchoedd recriwtio, swyddi gwag a mwy:
Trydar @SwyddiHDdaJobs LinkedIn @Hywel Dda University Health Board
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle