Penodi Owen Roberts yn Brif Weithredwr Plaid Cymru

0
396
Adam Price AM

Mae Plaid Cymru wed penodi Dr Owen Roberts yn Brif Weithredwr.

Ar hyn o bryd mae Owen yn gweithio fel arbenigwr cyfathrebu a materion allanol yn hyrwyddo sectorau bwyd ac amaeth Cymru a bydd yn dechrau ar ei waith yn arwain swyddfa ganolog Plaid Cymru yn yr wythnosau nesaf.

Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Marc Jones, Prif Weithredwr Plaid Cymru:

“Mae gan Owen gyfoeth o brofiad, brwdfrydedd a syniadau i gynyddu cefnogaeth i’r Blaid ac rwy’n hynod o falch o fod yn ei groesawu i’w rôl newydd fel Prif Weithredwr.

Mae Owen yn rhywun sydd wedi gweithio’n wirfoddol ar bob lefel o’r Blaid yn ogystal â threulio cyfnod fel aelod staff i Aelod etholedig. Mae ganddo ddealltwriaeth gwirioneddol o’r aelodaeth ar lawr gwlad ac mi rydw i’n edrych ymlaen at gyd-weithio â fo a gweddill y staff i ddatblygu’r Blaid ymhob rhan o Gymru.”

Cyn dechrau yn ei rol newydd, dywedodd Owen Roberts:

“Mae’n destun cyffro a balchder i mi fod yn ymgymryd â rol Prif Weithredwr Plaid Cymru gyda’r mudiad ar drothwy ei ganfed blwyddyn.

Fy amcan fydd nid yn unig i dyfu aelodaeth y blaid ond hefyd i ysgogi ac ysbrydoli aelodau presennol i guro drysau a chynnal sgyrsiau gan ddod yn actifyddion pybyr yn ein cymunedau.

Wrth i bleidiau San Steffan barhau i anwybyddu buddiannau Cymru, mae’n bwysicach nag erioed fod Plaid Cymru yn gweithio’n galed i ehangu ein cefnogaeth ym mhob cwr o’r wlad.

Gwn fod llawer i’w wneud ond gwn hefyd fod Cymru ar ei hennill pan fod Plaid Cymru yn rhoi llais cryf a gofalgar i’n cymunedau sy’n haeddu dim llai.”

Wrth groesawu’r penodiad, dywedodd Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru:

“Pleser o’r mwyaf yw croesawu Owen i’w swydd newydd fel Prif Weithredwr Plaid Cymru.

“Daw gydag ef ystod o sgiliau a phrofiadau fydd yn amhrisadwy ar yr adeg bwysig hon yn hanes Plaid Cymru wrth i ni weithredu ein strategaeth wleidyddol newydd: ehangu cefnogaeth y blaid ym mhob rhan o Gymru, dod yn blaid lywodraethol, a sicrhau annibyniaeth i’n cenedl.

“Edrychaf ymlaen at weithio gydag Owen wrth i ni fwrw ymlaen â’r gwaith hollbwysig hwn i sicrhau’r newid sydd ei angen a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ledled Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle