Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi ystyried effaith amgylcheddol dulliau gwahanol o reoli clymog Japan yn y tymor hir.
Cyfrifwyd ei bod yn costio mwy na £165 miliwn bob blwyddyn i reoli’r rhywogaeth oresgynnol yn y DU yn unig. Gall ei phresenoldeb darfu ar ymdrechion aelwydydd i brynu a gwerthu eiddo ledled y wlad.
Mae hyn wedi arwain at ddatblygu ffyrdd gwahanol o geisio ei rheoli, ond gan fod cynaliadwyedd bellach yn gynyddol bwysig, mae deall effaith y dulliau rheoli hyn yn hollbwysig.
Mae astudiaeth newydd – a arweinir gan Dr Sophie Hocking, darlithydd yn y biowyddorau, ac sy’n ymchwilio i gylch bywyd cyfan ac effeithiau tymor hir dulliau rheoli gwahanol – newydd gael ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn ar-lein Scientific Reports.
Meddai Dr Hocking: “O ystyried yr argyfyngau presennol o ran yr hinsawdd a bioamrywiaeth, mae rheoli rhywogaethau goresgynnol a chynaliadwyedd yn bwysicach nag erioed.
“Mae cysylltiad cynhenid rhwng y rhain – rydyn ni’n gwybod y gall rhywogaethau goresgynnol achosi effeithiau ecolegol, cymdeithasol ac economaidd negyddol sylweddol, a dylai’r ffordd rydyn ni’n rheoli’r rhywogaethau hyn liniaru hyn mewn ffordd gynaliadwy er mwyn peidio â gwneud mwy o ddrwg nag o les.
“Er y bu mwy o ymchwil i’r ffordd orau o reoli’r planhigyn, prin yw’r wybodaeth am gynaliadwyedd y dulliau hyn.”
Mae’r astudiaeth hon yn dilyn ymchwil flaenorol sydd wedi rhoi Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran arbenigedd mewn clymog Japan a dealltwriaeth ohoni.
Yn ôl yn 2012, lansiodd yr Athro Dan Eastwood a Dr Dan Jones y prawf maes mwyaf yn y byd ynghylch rheoli clymog, gan brofi’r prif ddulliau diriaethol, cemegol ac integredig o reoli’r rhywogaeth. Ymgymerwyd â’r ymchwil mewn partneriaeth agos ag Ian Graham, Rheolwr Gyfarwyddwr Complete Weed Control, ac Advanced Invasives, cwmni deillio dan arweiniad Dr Jones.
Darparodd yr astudiaeth faes hon wybodaeth hynod bwysig i waith Dr Hocking. Defnyddiwyd asesiad cylch bywyd – methodoleg ar gyfer asesu effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â holl gamau cylch bywyd proses fasnachol – i ganfod effeithiau amgylcheddol cymharol amrywiaeth o ddulliau cemegol a ffisiocemegol o reoli clymog.
Aeth ymchwilwyr ymhellach na chanolbwyntio ar y defnydd o’r dulliau hyn a diwedd eu
hoes, gan asesu effeithiau amgylcheddol dulliau rheoli gwahanol, gan gynnwys cynhyrchu’r deunyddiau a’r chwynladdwyr gofynnol i reoli clymog; mae hynny’n cael ei ddiystyru’n aml pan fyddwn yn gwerthuso cynaliadwyedd. Ar gyfer yr astudiaeth, dewisodd y tîm ddulliau cyffredin o reoli clymog, a defnyddiwyd data o’r byd go iawn am yr amser a dreuliwyd, y deunyddiau a ddefnyddiwyd a’r costau economaidd i werthuso eu heffeithiau amgylcheddol cymharol.
O’r dulliau a brofwyd, daethant i’r casgliad bod y dull mwyaf syml – chwistrellu hylif glyffosad ar ddail – yn defnyddio llai o ddeunyddiau, yn cael llai o effeithiau amgylcheddol, ac yn costio’n llai yn economaidd na’r un dull arall. Felly, dyma’r dull mwyaf cynaliadwy o reoli clymog. Mae’r canfyddiadau o bwys i’r rhai sy’n ymwneud â chlymog Japan wrth eu gwaith a’r rhai y mae presenoldeb clymog ar eu tir yn effeithio arnynt.
Ychwanegodd Dr Hocking: “Ar hyn o bryd, mae sgwrs fawr am gynaliadwyedd chwynladdwyr a’u heffeithiau ecolegol a’u heffeithiau ar iechyd pobl. Mae canfyddiadau cymdeithasol am y ffyrdd rydyn ni’n rheoli planhigion goresgynnol yn bwysig iawn, ond mae angen seilio ein dealltwriaeth o gynaliadwyedd ar dystiolaeth empirig.
“Ein gobaith yw y bydd yr ymchwil hon yn cyfrannu at ein dealltwriaeth ehangach o gynaliadwyedd dulliau gwahanol o reoli planhigion goresgynnol, ac yn helpu i lywio’r ffordd rydyn ni’n rheoli clymog ar hyn o bryd.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle