Mae pla o bryfed niwsans a phryfed brathu mewn uned foch yng Nghymru wedi haneru ers cyflwyno pryfed llesol fel dull o reoli cylch bywyd pryfed.
Cafodd pryfed ysglyfaethus, sy’n bwydo ar bryfed fel clêr cyffredin, eu rhyddhau i’r feithrinfa foch a’r ystafelloedd pesgi ar fferm Coleg Glynllifon ger Caernarfon fel rhan o astudiaeth Cyswllt Ffermio yn archwilio eu heffeithiolrwydd.
Mae lleihau poblogaethau o bryfed, sy’n cario clefydau fel salmonella, pasteurella, campylobacter ac E.coli, yn flaenoriaeth yn yr uned i ddiogelu iechyd moch a gwneud yr amgylchedd yn un cyfforddus i staff weithio ynddo.
Mae pryfed hefyd yn effeithio ar gynhyrchiant y genfaint oherwydd pan fydd da byw yn cael eu poeni ganddynt, bydd yn amharu ar eu cymeriant porthiant.
Dywedodd Dafydd Owen, Swyddog Technegol Moch gyda Cyswllt Ffermio, a oruchwyliodd y prosiect, fod clêr wedi’u nodi fel y rhywogaeth fwyaf cyffredin yn yr uned.
Gall y rhain gwblhau eu cylch bywyd mewn cyn lleied â saith diwrnod a, gan mai dim ond 15% o gyfanswm poblogaeth y pryfed sy’n oedolyn ar unrhyw un adeg, ni ellir rheoli’r broblem trwy ladd y rhain yn unig.
Dywedodd Mr Owen, gyda phwysau ar y diwydiant amaethyddol i leihau’r defnydd o bryfleiddiad, fod y prosiect yn ceisio canfod sut y gallai pryfed ysglyfaethus gynnig dewis arall.
Cyflwynwyd y Biofly, y pryf ysglyfaethus a ddefnyddir amlaf mewn unedau moch slatiog, ar ôl i nifer o bryfed niwsans gael eu harolygu ar dri achlysur gwahanol drwy ddefnyddio tap dal pryfed.
Mae’r Biofly yn targedu larfau pryfed pla, a geir fel arfer mewn mannau gwlyb, fel pyllau slyri tanddaearol, meddai Emma Pattison, o’r cwmni biotechnoleg Bestico.
Mae ei larfau yn ysglyfaethwyr cigysol sy’n bwydo ar larfau gwahanol rywogaethau pryfed pla.
Nid yw’r pryfed hyn yn achosi niwsans i staff fferm nac anifeiliaid gan fod yr oedolyn yn byw yn yr amgylchedd ychydig fodfeddi uwchben y slyri, o dan y slatiau.
Mae’n dechrau dodwy wyau yn fuan ar ôl iddo gael ei ryddhau; mae’r wyau hyn yn datblygu’n larfau, sy’n bwydo ar larfau pryfed pla.
Yng Nglynllifon, cyflwynwyd bagiau bychan o Biofly gyda phob un yn cynnwys tua 9,000 o chwilerod am y tro cyntaf ym mis Awst 2022.
Pan ryddhwyd y Biofly am y tro cyntaf, cafodd tiwbiau o Biomite, ysglyfaethwr wyau sy’n targedu cyfnod gwahanol yng nghylch bywyd y pryf niwsans, hefyd eu gosod yn yr ystafelloedd oherwydd y poblogaethau cychwynnol uchel o bryfed
Rhyddhawyd y Biofly bedair gwaith eto dros y ddau fis canlynol gyda thâp dal pryfed yn cael ei ddefnyddio eto i fonitro niferoedd pryfed pla.
Mae’r arolwg hwnnw, sydd bellach wedi’i gyhoeddi gan Cyswllt Ffermio, yn dangos bod y gostyngiad cyfartalog yn nifer y pryfed yn yr ystafelloedd pesgi moch a’r ystafelloedd meithrin gyda’i gilydd yn 50%.
Yn annisgwyl, digwyddodd y gostyngiad hwnnw hefyd yn yr ystafelloedd lle nad oedd y Biofly wedi’i ryddhau, sy’n awgrymu bod y Biofly wedi byw yn yr ardaloedd hynny hefyd, meddai Miss Pattison.
Dangosodd yr arolwg fod niferoedd y pryfed pla wedi lleihau 55% yn yr ystafelloedd meithrin lle defnyddiwyd y driniaeth bryfed a 40% yn yr ystafelloedd lle nad oedd Biofly wedi cael ei ddefnyddio.
“Nid yw’n glir a oedd y Biofly wedi’i gynnwys yn ddigonol ym mhob ystafell, ond mae’r data’n awgrymu bod y Biofly wedi lleihau poblogaeth y plâu trwy’r adeilad cyfan yn hytrach na’r ystafelloedd triniaeth yn unig,” meddai Miss Pattison.
Roedd canlyniadau annisgwyl eraill, ychwanegodd, gyda gostyngiad o 81% yn nifer y pryfed a gofnodwyd ar dâp dal pryfed yn yr ystafelloedd pesgi lle nad oedd unrhyw Biofly wedi cael eu rhyddhau a chynnydd o 57% yn nifer y pryfed yn yr ystafelloedd pesgi lle cawsant eu rhyddhau.
Yr esboniad tebygol yw bod gan yr ystafelloedd pesgi lle rhyddhawyd y Biofly niferoedd isel iawn o bryfed ymlaen llaw gyda chyfartaledd o ddim ond 17 o bryfed wedi’u cofnodi ym mhob ystafell – o’i gymharu â 60 yn yr ystafelloedd pesgi lle na ryddhawyd y Biofly.
Dywedodd y ceidwad moch Eddie Spooner fod y gostyngiad yn nifer y pryfed wedi gwella ei amgylchedd gwaith yn fawr.
Mae defnyddio dull rheoli nad yw’n dibynnu ar bryfleiddiad yn gwneud synnwyr, ychwanegodd.
“Pe na bawn i wedi gweld gyda fy llygaid fy hun pa mor effeithiol yw hyn, efallai y byddai wedi bod angen cryn ddarbwyllo arnaf ond roedd y gwahaniaeth yn nifer y pryfed yn wirioneddol anhygoel,” meddai Mr Spooner.
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle