Gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru – wythnos yn dechrau 20 Mawrth

0
228
Class 175 at Llandudno

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cynghori ei gwsmeriaid i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio wrth i wasanaethau barhau i gael eu heffeithio gan brinder trenau a gwaith peirianyddol.

Y diweddaraf am drenau Dosbarth 175

Fel y cyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, mae Trafnidiaeth Cymru wedi tynnu nifer o’i drenau Dosbarth 175 o wasanaeth dros dro er mwyn caniatáu i wiriadau cynnal a chadw ychwanegol gael eu cynnal yn dilyn rhai problemau mecanyddol diweddar. 

Mae’r gwiriadau cynnal a chadw hyn wedi canfod bod angen mynd ati i wneud gwaith atgyweirio pellach i injans rhai o’r trenau cyn y byddant yn barod i wasanaethu teithwyr.  O ganlyniad, mae’n debygol y bydd y tarfu ar wasanaethau teithwyr yn parhau tan ddechrau mis Ebrill.

Mae tarfu yn debygol ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, nid yn unig ar y llwybrau hynny a wasanaethir gan y trenau Dosbarth 175, wrth i drenau gael eu symud er mwyn darparu mwy o le ar y gwasanaethau lle mae’r galw mwyaf.  Gofynnir i gwsmeriaid wirio cyn teithio.  Mae hyn yn cynnwys trenau cyntaf ac olaf ac unrhyw gysylltiadau fferi er mwyn sicrhau bod digon o amser wrth gefn.

Dyma’r llwybrau y mae’r newidiadau yn effeithio arnynt:

  • Casnewydd – Crosskeys – gwasanaeth wedi’i ganslo (dim bws yn lle trên).
  • Caer-Lerpwl – gwasanaeth wedi ei ganslo (derbynnir tocyn Merseyrail).
  • Lein Dyffryn Conwy – gwasanaeth wedi’i ganslo (bws yn lle trên).
  • Lein Wrecsam-Bidston – gwasanaeth wedi’i ganslo gyda bws yn lle trên.
  • Arfordir y Cambrian – gwasanaeth ben bore Y Bermo wedi’i ganslo, bydd bws yn lle trên yn weithredol.
  • Llinellau Craidd y Cymoedd – llai o wasanaethau’n rhedeg ar rai llwybrau. Dim gwasanaethau rhwng Abercynon a Merthyr Tudful tan ddydd Llun 3 Ebrill oherwydd y gwaith trawsnewid Metro De Cymru.
  • Llinellau Gorllewin Cymru – mae gwasanaethau rheilffordd wedi ailddechrau.
  • Holl wasanaethau Aberdaugleddau ac Abergwaun wedi’u canslo i’r gorllewin o Gaerfyrddin – gwasanaethau bws yn lle trên wedi ailddechrau.

Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau TrC: “Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac mae’n rhaid cwblhau’r holl wiriadau ac atgyweiriadau angenrheidiol ar ein trenau Dosbarth 175 cyn y caniateir iddynt ddychwelyd i wasanaethu cwsmeriaid. Gyda rhai o’r trenau, canfuwyd bod angen gwneud gwaith atgyweirio pellach ar yr injans.

“Tra bod gennym y prinder hwn o gerbydau, rydym yn symud trenau o amgylch y rhwydwaith i geisio lliniaru cymaint ar y tarfu i’n cwsmeriaid â phosibl.

“Yn ogystal, rydym yn gweithio’n galed i geisio dod o hyd i ddarnau ar lefel ryngwladol er mwyn cyflymu’r broses o ddychwelyd y trenau i wasanaeth – yn raddol bydd mwy yn cael eu rhyddhau i wasanaethu dros yr ychydig wythnosau nesaf ond rydym yn disgwyl y bydd rhywfaint o darfu yn parhau tan fis Ebrill.

“Mae’n ddrwg iawn gennym am y tarfu hwn i deithiau ein cwsmeriaid wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle