Hybu dulliau positif o fagu plant flwyddyn ar ôl rhoi stop ar gosbi corfforol

0
338

Flwyddyn ar ôl y newid pwysig i’r gyfraith i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol, mae nifer o becynnau cymorth magu plant penodol ledled Cymru yn helpu i hybu newidiadau cadarnhaol i fywyd teuluol a chodi ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth newydd.

Daeth y gyfraith newydd, sy’n amddiffyn plant a’u hawliau, i rym ym mis Mawrth 2022 ac mae’n rhoi’r un amddiffyniad rhag ymosodiad i blant ag oedolion yng Nghymru.

Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhoi ciplun o safbwyntiau ar ddechrau 2022, ychydig cyn i’r gyfraith ddod i rym. Mae’r ciplun hwn yn dangos bod 71% o rieni/gofalwyr plant saith oed neu iau yn anghytuno ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn, o gymharu â 63% a arolygwyd yn 2021. 

Canfu’r adroddiad hefyd y bu cynnydd mewn ymwybyddiaeth o’r gyfraith a chefnogaeth iddi ers 2018, gyda 59% o’r ymatebwyr yn adrodd eu bod o blaid y newid i’r gyfraith o gymharu â 38% yn 2018.

Mae rhieni / gofalwyr cymwys y canfuwyd eu bod wedi torri’r gyfraith yn cael cymorth gan weithwyr magu plant proffesiynol yn rhan o gynllun cymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys. Mae’r cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn helpu’r rhieni i osgoi aildroseddu. Yn ystod y chwe mis ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym, roedd 55 o atgyfeiriadau am gymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys ar draws Cymru gan yr heddlu.

Mae’r rhai sy’n gweithio gyda’r rhieni wedi canmol y ddeddfwriaeth newydd am roi eglurder i’r sector a rhieni ynglŷn â chosbi plant yn gorfforol, a oedd yn faes niwlog o’r blaen. 

Dywedodd Sue Layton, Cadeirydd y Rhwydwaith Arweinwyr Strategol Teuluoedd a Magu Plant Cenedlaethol a’r Cydlynydd Magu Plant ar gyfer Gwynedd, “Mae’r ddeddfwriaeth newydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth amlygu effaith cosbi corfforol, ac mae’r adnoddau ychwanegol a ddarperir i awdurdodau lleol ar gyfer cymorth magu plant wedi’i deilwra wedi cael eu croesawu. Nid yw’r sefyllfa mor niwlog ag o’r blaen. Mae’r ddeddf yn gosod ffiniau pendant, ac nid yw’n dderbyniol cosbi plentyn yn gorfforol yng Nghymru mwyach.”

Ychwanegodd Gwawr Miller, Swyddog Cymorth Magu Plant, Deddf Plant Cymru, Cyngor Gwynedd, “Fe wnaethon ni gryn dipyn o waith codi ymwybyddiaeth cyn i’r gyfraith newid yn rhan o’n sesiynau magu plant. Roedd hyn wedi ein galluogi i sôn am gosbi corfforol a rhoi gwybod i rieni fod y gyfraith yn newid. Ers i’r gyfraith ddod i rym, rydyn ni wedi llwyddo i annog rhieni i fyfyrio ar eu hymddygiad eu hunain a chanolbwyntio ar fathau eraill o ddisgyblu nad ydynt yn cynnwys cosbi corfforol.”

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, “Nid yw magu plant bob amser yn rhwydd ac rydym wedi canolbwyntio ar fagu plant yn gadarnhaol, ac yn parhau i wneud hynny. Mae ein hymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo yn fan cychwyn gwych i rieni. 

“Flwyddyn ers i gosbi corfforol ddod yn anghyfreithlon, rwy’n falch o weld bod y cymorth rydym yn ei gynnig i rieni yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Y ddeddf oedd y sbardun yr oedd ei angen ar y sector i allu darparu eglurder a chymorth ymarferol, a gyda phob blwyddyn sy’n mynd heibio, bydd mwy a mwy o blant a theuluoedd yn gweld budd y ddeddfwriaeth a’r gefnogaeth y mae wedi’i rhoi i hawliau plant yng Nghymru.”

Safbwyntiau gweithwyr magu plant proffesiynol 

Mae gweithwyr proffesiynol ym maes cymorth magu plant wedi canmol y ddeddfwriaeth newydd am roi eglurder i’r sector a rhieni ynglyn a chosbi plant yn gorfforol, a oedd yn faes niwlog o’r blaen.

Dywedodd Sue Layton, Cadeirydd y Rhwydwaith Arweinwyr Strategol Teuluoedd a Magu Plant Cenedlaethol a’r Cydlynydd Magu Plant ar gyfer Gwynedd, “Mae’r ddeddfwriaeth newydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth amlygu effaith cosbi corfforol, ac mae’r adnoddau ychwanegol a ddarperir i awdurdodau lleol ar gyfer cymorth magu plant wedi’i deilwra wedi cael eu croesawu. Nid yw’r llinellau mor niwlog ag o’r blaen. Mae’n bendant, ac nid yw’n dderbyniol cosbi plentyn yn gorfforol yng Nghymru, mwyach. Roedd Covid yn adeg anodd i ni ac i rieni o ganlyniad i’r diffyg cymorth wyneb yn wyneb. Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym yn dod allan o hynny ac yn sylwi bod cymorth gan gymheiriaid yn amhrisiadwy o ran rhannu profiad yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r gyfraith. 

“Bydd rhai rhieni bob tro’n dweud nad oedd wedi gwneud niwed iddynt, tra bydd eraill yn dweud ei fod wedi gwneud niwed iddynt ac wedi cael effaith fawr ar eu bywyd. Yn aml, bydd hynny’n ddigon i wneud i rywun feddwl nad yw cosbi plentyn yn gorfforol yn fuddiol wrth symud ymlaen. Mae gwrando ar brofiad rhieni eraill yn aml yn fwy effeithiol nag unrhyw beth a ddywedwn ni fel gweithwyr proffesiynol.”

Ychwanegodd Gwawr Miller, Swyddog Cymorth Magu Plant, Deddf Plant Cymru, Cyngor Gwynedd, “Fe wnaethon ni gryn dipyn o waith codi ymwybyddiaeth cyn i’r gyfraith newid yn rhan o’n sesiynau magu plant. Roedd hyn wedi ein galluogi i sôn am gosbi corfforol a rhoi gwybod i rieni fod y gyfraith yn newid. Ers i’r gyfraith ddod i rym, rydyn ni wedi llwyddo i annog rhieni i fyfyrio ar eu hymddygiad eu hunain a chanolbwyntio ar fathau eraill o ddisgyblu nad ydynt yn cynnwys cosbi corfforol. 

“O ganlyniad i’r cyllid ychwanegol, rydyn ni wedi gallu teilwra cymorth yn unigol i bob rhiant, gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Pan wnaethon ni’r gwaith grŵp yn y gorffennol, bydden ni’n dilyn y cwrs yn gaeth bob wythnos, ond nawr rydyn ni’n gweithio un i un os bydd angen, gan deilwra cymorth ychydig yn fwy. Mae’r meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru wedi rhoi’r rhyddid i ni edrych ar lawer o wahanol ymyriadau, gan ein galluogi i weithio’n agos gyda rhieni un wythnos ar y tro yn dibynnu ar beth sy’n digwydd yn y cartref, y cynnydd sy’n cael ei wneud a’r hyn maen nhw’n cael trafferth ag ef.

“Rydw i wedi defnyddio llythyrau myfyriol yn rhan o’m cymorth i rieni. Mae’r rhain yn rhoi sail, ar ôl pob sesiwn, i rieni fyfyrio ar ba mor bell maen nhw wedi dod. Y peth da am y llythyrau myfyriol yw er efallai y byddwn wedi trafod ac archwilio llawer o bethau gyda rhieni yn ein sesiynau, mae’r llythyrau’n crisialu’r prif bwyntiau. Gall rhieni ddarllen ac adnabod y sgyrsiau a gafwyd yn rhwydd a gweithio ar bwyntiau allweddol ar gyfer y sesiwn nesaf. Yn ddiddorol, mae’r cyrsiau nid yn unig wedi bod gyda mamau, ond hefyd mwy o dadau nag o’r blaen. Mae’n bwysig bod y ddau riant yn cael y cymorth. Yn hytrach nag edrych ar gosbi cyffredinol, rydyn ni’n edrych yn fanylach ar eu profiadau eu hunain o gosbi corfforol ac yn dod â hynny i flaen eu meddwl. Mae’r gyfraith wedi newid ac nid yw’n dderbyniol taro plentyn mwyach, ond mae angen i ni archwilio sut cawson nhw eu magu er mwyn deall sut maen nhw’n magu eu plant eu hunain.

“Ym mhob achos bron, mae’n ymwneud â cholli rheolaeth, lefel straen, popeth a oedd yn digwydd yn y teulu. Mae llawer o ffactorau ar waith, ond yn amlach na pheidio, mae cosbi corfforol yn digwydd pan fydd y rhieni’n colli rheolaeth ar sefyllfa. Mae hynny’n bwrw eu hyder, ac maen nhw’n amau eu gallu i fagu plant. Mae’n beth mawr. Rydyn ni’n gweithio i gynyddu eu hyder ac archwilio sut maen nhw’n gofalu am eu lles eu hunain, fel nad ydyn nhw’n cyrraedd y pwynt lle maen nhw’n teimlo allan o reolaeth yn llwyr ac yn troi at gosbi corfforol.

“Os na chafodd rhieni eu magu mewn ffordd gadarnhaol pan oedden nhw’n blant, ac rydyn ni’n dweud wrthyn nhw na allant ddefnyddio dulliau corfforol, maen nhw’n aml yn gofyn beth maen nhw i fod i’w wneud. Mae hyn yn ddealladwy os nad oes ganddyn nhw’r offer a’r strategaethau i ymdopi. Mae’n broses raddol o ddysgu i rai a gall meddu ar yr offer hyn wneud gwahaniaeth mawr oherwydd nid oes gan lawer ohonynt unigolyn i roi esiampl dda iddynt. Roedd athrawon yn defnyddio’r gansen neu sliper yn gymharol ddiweddar, ac nid oedd gan lawer unigolyn i roi esiampl dda iddynt yn yr ysgol na gartref.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle