Dod i adnabod Cymru dros y Pasg

0
196
Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn - Pendine Tourist Attractor

Wrth iddi gael ei thywys ar y daith swyddogol gyntaf o amgylch atyniad newydd, gwerth miliynau o bunnoedd, i ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin, bu Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, yn annog pobl i ymweld â Chymru dros y Pasg.

Nod y datblygiad newydd, sef cartref newydd yr Amgueddfa Cyflymder Tir, yn ogystal ag eco-gyrchfan gwyliau a chanolfan ddigwyddiadau, yw cynnig cyfleusterau o safon uchel i ymwelwyr a fydd ar gael gydol y flwyddyn er mwyn manteisio i’r eithaf ar dreftadaeth ac asedau naturiol Pentywyn.

Bydd y datblygiad newydd yn denu nifer sylweddol o ymwelwyr dydd ac arosiadau dros nos, a bydd lle yno i gynnal digwyddiadau mawr, gan ddod â manteision economaidd ychwanegol i’r ardal er mwyn sbarduno adfywiad economaidd y cyrchfan yn y dyfodol.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, sydd â chyfrifoldeb dros dwristiaeth yn Llywodraeth Cymru:

“Â gwyliau’r Pasg yn prysur agosáu, rydyn ni’n edrych ‘mlaen at groesawu ymwelwyr hen a newydd, a hefyd at weld pobl Cymru yn darganfod rhannau newydd o’n gwlad. Mae’n amser perffaith i fynd allan i ddod i ‘nabod ein gwlad yn well yn ystod ein blwyddyn thematig, Llwybrau. Wales, by Trails.

“Mae’n bleser cael bod ymhlith y cyntaf i ymweld â’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn Sir Gaerfyrddin, a fydd yn helpu i gefnogi 41 o swyddi newydd.

“Nod y rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw datblygu prosiectau a fydd yn gwella ansawdd cyrchfannau yng Nghymru a hefyd ganfyddiad ymwelwyr ohonynt. Mae’r darn eiconig hwn o draeth Pentywyn yn gefndir ardderchog i’r datblygiadau newydd hyn a fydd o fudd i’r trigolion ac i ymwelwyr â’r ardal.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae’n gyffrous iawn cael taith o gwmpas y Prosiect Denu Twristiaid newydd sbon, yma ym Mhentywyn.

“Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu’r cyfleuster rhagorol hwn, a fydd yn hyrwyddo enw da Pentywyn fel cyrchfan ‘diwrnod ac aros’ drwy gydol y flwyddyn i ymwelwyr, yn darparu ar gyfer 41 o swyddi ac yn cynhyrchu £3 miliwn y flwyddyn i’r economi ranbarthol.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld drysau’r Prosiect Denu Twristiaid yn cael eu hagor yn swyddogol yn ystod gwyliau’r Pasg a chroesawu ymwelwyr i’r rhan hardd hon o Sir Gaerfyrddin.”

Yn ôl ffigurau diweddar Baromedr Busnesau Twristiaeth Cymru, mae 64% o’r busnesau’n gweld naill ai yr un niferoedd o gwsmeriaid, neu fwy o gwsmeriaid, o gymharu â’r niferoedd cyn y pandemig. Roedd y Baromedr yn dangos hefyd fod 17% o weithredwyr yn ‘hyderus iawn’ y bydd eu busnesau’n gwneud elw eleni, a bod 50% o’r lleill yn ‘eithaf hyderus’. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi er mwyn datblygu twristiaeth ac, yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog fod £5 miliwn ar gael i’r Parciau Cenedlaethol a’r awdurdodau lleol drwy’r Gronfa Pethau Pwysig (Cael y Pethau Pwysig yn eu lle: lansio cronfa twristiaeth £5 miliwn | LLYW.CYMRU

Bydd Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru, sy’n werth £50 miliwn, sy’n gyfuniad o grantiau a benthyciadau, ac sy’n cael ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru, yn parhau i helpu i ariannu buddsoddiad cyfalaf mewn prosiectau sy’n datblygu’r sector ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar economi Cymru.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:

“Dw i’n gwybod yn iawn bod heriau yn parhau i wynebu’r sector yn y tymor byr ac yn yr hirdymor. Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymrwymedig i weithio gyda’r diwydiant i sicrhau twf cynaliadwy yn y blynyddoedd sydd i ddod.

“Eleni, rydyn ni’n gwahodd pobl i droedio Llwybrau Cymru – ac yn ystod y cyfnod cyn y Pasg, bydd Croeso Cymru, drwy ei waith marchnata, yn parhau i sicrhau bod Cymru ar feddwl pobl, yn enwedig o gofio bod y diwydiant yn dweud mai’r tueddiad, oherwydd yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, yw bod pobl yn archebu gryn dipyn yn hwyrach.

“Ein ffocws, fel yr amlinellir yn ein strategaeth dwristiaeth, yw sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa ar fanteision twristiaeth, ac annog mwy o wariant yn ein heconomi a mynd i’r afael â natur dymhorol y diwydiant drwy hyrwyddo Cymru fel cenedl y gallwch ymweld â hi drwy gydol y flwyddyn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle