TAITH GERDDED GYMREIG JOE!
O Rosneigr i Rydyfelin; taith epig i godi arian i Plant y Cymoedd.
Yn gynharach eleni, dywedodd Joe Williams ei fod am wneud rhywbeth arbennig i godi arian i Plant y Cymoedd a gosododd her ryfeddol iddo’i hun: cerdded o ogledd i dde Cymru.
Ar Fai 1 eleni, bydd Joe yn cychwyn o Rosneigr ym Môn i gerdded y 167 milltir yn ôl i’w weithle; Canolfan Gymunedol Rhydyfelin Plant y Cymoedd ar waelod Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd Joe, “Ers ymuno â Plant y Cymoedd, rwyf wedi sylwi ar lawer o doriadau cyllid, sy’n golygu nad ydym yn gallu darparu cymaint o wasanaethau i bobl. Mae’r gymuned yn cael trafferth gyda hyn ac mae materion fel unigedd ac unigrwydd yn codi. Dydw i ddim yn hoff o chwaraeon ond rwy’n mwynhau’r awyr agored ac mae gen i’r awydd i godi arian at achos da. Rydw i wastad wedi bod eisiau gweld Cymru gyfan, a dyma sut rydw i’n mynd i wneud hynny.”
Roedd Joe yn rhedeg grŵp cymunedol lleol ym Merthyr Tudful a oedd yn casglu sbwriel ac yn gofalu am y gymuned leol trwy ddosbarthu bwyd. Yn 2021, i godi arian i logi neuaddau cymunedol ac offer, cerddodd o Lands End i John o’Groats mewn tri mis a chododd £1,200.
Bydd yr arian y mae Joe yn ei godi y tro hwn yn mynd tuag at ehangu’r ddarpariaeth o fewn Plant y Cymoedd a darparu gwell offer ar gyfer gweithgareddau cymunedol.
Mae Joe yn gobeithio am dywydd braf a llawer o gefnogaeth ac anogaeth ar hyd y 167 milltir wrth iddo anelu at gwblhau ei her uchelgeisiol o fewn deuddeg diwrnod.
Os hoffech gefnogi Joe a gwneud cyfraniad i Plant y Cymoedd, ewch i’r ddolen hon: https://www.justgiving.com/page/joewalkswales?fbclid=IwAR3BWtzCeqZ-4Arz71ipTUPzHD4CXsLkTWhOvtb_MCjR3DYBuzCkMspMxK8
Hoffai Plant y Cymoedd ddweud diolch enfawr, enfawr i Joe a phawb sydd wedi cefnogi gyda rhodd.
I ddilyn Joe ar ei daith, dilynwch @valleyskids ar Instagram a Twitter a @valleyskidsfans ar Facebook.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle