Theatrau Sir Gâr yn cyhoeddi cast Golygfeydd o’r Pla Du!

0
320

Bydd cynhyrchiad cyntaf erioed Theatrau Sir Gâr ar gart sigledig o amgylch Cymru rhwng y 5ed – 26ain o Fai. Mae Golygfeydd o’r Pla Du gan Chris Harris wedi ei leoli yn y pentref anghofiedig a digyfraith, Pentreufargirec ym 1348. Yn gomedi tywyll a direidus am argyfwng a llygredd, mae’n addo i fod yn wahanol i un rhywbeth byddwch chi wedi ei weld (neu arogleuo) cyn hyn!

Heddiw, mae Theatrau Sir Gâr yn gyffrous iawn i gyhoeddi’r cast dewr a drygionus sy’n camu mewn i esgidiau blêr y cymeriadau; 

Berwyn Pearce, yn wreiddiol o Bontypridd, sy’n adnabyddus am ei rôl yn Woof, Sherman Cymru ac mewn cyfresi teledu fel Pobl y Cwm, fydd yn chwarae rhan Twm – con-artist cyfrwys canol oesol. Gynulleidfa! Cadwch lygad barcud ar hwn!

Berwyn Pearce.

Mae’r actores Alis Wyn Davies yn gyffrous am y cyfle i ddod adref i Sir Gâr am gyfnod a gadael strydoedd Llundain. Ar ôl ymddangos yn ddiweddar ochr yn ochr â Syr Ian McKellen yng nghynhyrchiad The Theatre Royal Windsor o Hamlet, bydd Alis yn gadael y glitz a’r glamour ac yn camu mewn i esgidiau cachlyd Mari Anni, gwerthwr tail chwyldroadol sy’n breuddwydio am ryddid!  

Alis Wyn Davies.

Iwan Charles, yn wreiddiol o Ddyffryn Clwyd ond bellach wedi ei leoli yng Ngwynedd, wyneb cyfarwydd mewn dramâu fel Dawel Nos gan Bara Caws a dramâu teledu fel Y Goleudy ar S4C fydd yn chwarae cymeriad mwyaf diawledig y sioe hon – y Casglwr Trethi amhoblogaidd! Mae pawb yn ei gasáu, ond mae’n dyheu am ddod o hyd i gariad!  

Iwan Charles

Ffani Anni yw’r cymeriad olaf, enaid rhamantus tu hwnt ond sy’n andros, andros o sal, ac yn hiraethu am ei chariad colledig. Iwan Charleso Geredigion, fu’n rhan o’r cynhyrchiad diweddar Clera gydag Arad Goch, fydd yn chwarae’r cymeriad anobeithiol hon. 

Anni Dafydd

Dewch yn llu gyfeillion i fwynhau’r cymeriadau ecsentrig, yr hiwmor sarcastig, pypedau fflwfflyd a geifr sy’n canu! 

Oherwydd natur y sioe, mae’n cael ei argymell ar gyfer y rhai 14+ oed. Mae hi yn addas i ddysgwyr. Bydd Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru ar gael ym mhob perfformiad i’w gwneud yn hygyrch i ddysgwyr. Bydd tri pherfformiad BSL arbennig gan Cathryn Mc Shane– Kouyatè yn ystod y daith ar y 5ed o Fai yn y Ffwrnes, Llanelli, yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon ar 18fed Mai, ac yn Pontio ar Fai 23ain. 

Am restr llawn o’r daith genedlaethol, ewch i https://www.theatrausirgar.co.uk/cy/golygfeydd-or-pla-du-ar-daith  

Am fanylion pellach neu am gyfweliadau gyda’r cast cysylltwch ag Ymgynghorydd Marchnata Theatrau Sir Gâr, Heulwen Davies o Llais Cymru; heulwen@llaiscymru.wales neu Kate Boucher, klboucher@carmarthenshire.gov.uk  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle