Portffolio’r Fargen Ddinesig yn cael ei gydnabod am ei effaith gadarnhaol ar draws y rhanbarth drwy ennill rhai o brif wobrau’r diwydiant.

0
218
Skills Awards

Logo, company name

Description automatically generated

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n dechrau trawsnewid de-orllewin Cymru yn rhanbarth ffyniannus a chynaliadwy i’w drigolion weithio a byw ynddo, wedi cael cydnabyddiaeth drwy ennill nifer o wobrau nodedig y diwydiant yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae dros hanner y prosiectau a rhaglenni bellach wedi ennill gwobrau, sy’n rhoi sicrwydd pellach bod y Fargen Ddinesig mewn sefyllfa dda i fod o fudd i fusnesau a thrigolion Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn fuddsoddiad o tua £1.3 biliwn a disgwylir iddi greu o leiaf 9,000 o swyddi, yn ogystal â rhoi hwb economaidd rhanbarthol o £1.8bn o leiaf yn y blynyddoedd nesaf. 

Cyflawnir portffolio’r Fargen Ddinesig drwy naw o brif raglenni a phrosiectau ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, lle mae’r pedwar awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion, byrddau iechyd a chwmnïau preifat. Mae pump o’r prosiectau a’r rhaglenni wedi cael cydnabyddiaeth drwy wobrau sydd wedi’u hachredu gan y diwydiant am eu llwyddiannau drwy gydol y broses gyflawni. 

Mae’r rhaglen Sgiliau a Thalentau, a fydd yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i filoedd o bobl ledled y rhanbarth ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, wedi ennill gwobr am ei phrosiect peilot cyntaf.  Mae ‘Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy’ yn rhaglen unigryw sy’n ceisio paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y sector ynni adnewyddadwy ac mae’n cael ei darparu ar y cyd â Choleg Sir Penfro, Addysg Cyngor Sir Penfro a phartneriaid o’r sector preifat. Mae’r prosiect peilot wedi ennill gwobr genedlaethol am ynni gwynt ar y môr ‘Offshore Wind Energy Skills’ yng Ngwobrau Ynni Gwynt ar y Môr Renewables UK 2022 a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd, ynghyd â chyrraedd y rownd derfynol yn seremoni Gwobrau STEM Cymru.  

  

Dechnoleg Bae Abertawe

Enillodd Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe, sy’n rhan o’r rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel, ac sy’n darparu lle hyblyg ar gyfer ymchwil a swyddfeydd i gwmnïau yn y sector ynni, technoleg a gwyddor bywyd, dair gwobr uchel eu proffil yn 2022 am ei nodweddion amgylcheddol.  Y gwobrau hyn oedd Gwobr Prosiect Eiddo Masnachol y Flwyddyn yng Ngwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain (BCI), Gwobr Sero Net yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) a’r Wobr Gynaliadwyedd yng Ngwobrau Eiddo Insider Cymru. 

Mae’r adeilad hwn sy’n fuddsoddiad o £8.8m, a adeiladwyd gan Morgan Sindall ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn effeithlon o ran ynni – gan greu mwy o ynni nag y mae’n ei ddefnyddio. Cafodd ei gydnabod am ei gyflawniadau rhagorol ym maes adeiladu, dylunio pensaernïol a dylunio peirianegol, y broses adeiladu a’r amserlen gyflawni, ac mae wedi dechrau croesawu tenantiaid newydd. 

Mae Porthladd Aberdaugleddau, partner cyflawni strategol ym mhrosiect Ardal Forol Doc Penfro, hefyd wedi ennill gwobr. Yn ddiweddar, enillodd Wobr Cynaliadwyedd Porthladd yng Nghynhadledd Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (BPA). Cafodd y porthladd ei gydnabod gan BPA am ei nodweddion cynaliadwyedd a’i ymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol yn y porthladd a’r cymunedau cyfagos.     

Mae Pentre Awel yn Llanelli, a fydd y datblygiad cyntaf o’i gwmpas a’i faint yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd fusnesau, ymchwil, addysg, iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern, hefyd wedi ennill gwobr. Enillodd y prosiect, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin a’i gyflawni gan Bouygues UK, Wobr Gynaliadwyedd Bouygues UK drwy arbed dros 77,600kg o Garbon Deuocsid rhag cael ei allyrru ar y safle dros gyfnod o 15 wythnos. 

71/72 Ffordd y Brenin,

Mae datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin, sy’n rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau dan arweiniad Cyngor Abertawe, hefyd wedi ennill gwobr yn sgil cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Cynaliadwyedd Bouygues UK. Datblygiad swyddfeydd newydd yng nghanol dinas Abertawe yw hwn sydd bellach wedi’i adeiladu uwchlaw lefel y stryd a bydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi yn y sectorau technoleg, digidol a chreadigol. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn adeilad di-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe, a bydd yn cynnwys to gwyrdd, paneli solar a system adfer gwres i leihau’r defnydd o ynni.    

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, “Mae portffolio’r Fargen Ddinesig bellach yn cael ei gyflawni’n llawn ac mae’n wych gweld cynifer o’n prosiectau yn cael eu cydnabod am eu gwaith drwy ennill prif wobrau’r diwydiant. Mae’n dyst i dimau a phartneriaid y prosiect ledled y rhanbarth ac yn rhoi hyder i ni ein bod yn gwneud gwahaniaeth.  

Hefyd, yn ddiweddar mae Abertawe wedi’i henwi’n un o bedair dinas orau’r DU yng ngwobrau Estates Gazette 2022, sy’n cydnabod ymhellach y gwaith adfywio a datblygu economaidd enfawr sy’n digwydd yng nghanol ein rhanbarth.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle