Awdurdod y Parc yn addo penwythnos llawn digwyddiadau cyffrous dros y Pasg

0
210
Caption: Smugglers and Pirates will be the focus for a guided walk in the Solva area on Friday 7 April.

Bydd pob math o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan ar gael ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod gwyliau’r Pasg.

Gan gyd-fynd â Phythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol, bydd rhaglen lawn yn cynnig y cyfle i ymuno yn ysbryd yr ŵyl, gyda chyfle i ddysgu mwy am yr unig Barc Cenedlaethol gwirioneddol arfordirol ym Mhrydain.

Bydd Helfa Wyau Pasg yn cael ei chynnal yng Nghastell Caeriw ddydd Sadwrn 2 Ebrill a dydd Llun 17 Ebrill, gyda gwobr flasus i’r sawl sy’n llwyddo i ddod o hyd i’r wyau lliwgar sydd wedi’u cuddio o gwmpas y Castell. Y gost i gymryd rhan yw £2 y plentyn, a bydd y costau mynediad arferol yn daladwy.

Hefyd yn ystod gwyliau’r ysgol bydd y sesiynau poblogaidd Hanesion Atgas yn cael eu cynnal unwaith eto yng Nghastell Caeriw, gan fwrw golwg ar yr holl bethau hynny na chafodd eu dysgu i chi yn yr ysgol. Am ddim, ar ôl talu’r tâl mynediad, bydd y sgyrsiau hwyliog, rhyngweithiol hyn ar gyfer y genhedlaeth iau yn cael eu cynnal am 11am yn ystod dyddiau’r wythnos a byddant yn cynnwys storïau gwaedlyd, chwedlau dychrynllyd a hanesion ofnadwy am fywyd yn y Castell. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Bydd Cyfeillion Tylwyth Teg y Goedwig yn hedfan i Gaeriw ddydd Mawrth 4 Ebrill am berfformiad a gweithdy awr o hyd, a bydd yn gyfle i fwynhau ballet clasurol, dawnsio gwerin traddodiadol, dawns fodern, storïau a chomedi. Mae’r antur ryngweithiol drwy’r byd naturiol, Yn y Coed Gwyrdd: Stori Dylwyth Teg yn pwysleisio pwysigrwydd gofalu am yr amgylchedd naturiol a phobl eraill. Mae tocynnau ar gyfer y perfformiad a’r gweithdy’n costio £5 y pen (oedolyn neu blentyn) a dylid eu harchebu ymlaen llaw. Noder mai digwyddiad trydydd parti yw hwn ac y bydd y tâl mynediad i Gastell Caeriw hefyd yn daladwy. Addas i oedrannau 3+.

I’r rhai hynny ohonoch a hoffai ddathlu’r Pasg ag ychydig mwy o gyffro, bydd Lansio’r  Fagnel Anferthol yng Nghaeriw yn digwydd am 2.30pm ddydd Iau 6 Ebrill a dydd Iau 13 Ebrill. Cewch weld grym yr arf gwarchae dyfeisgar hwn yn cael ei ollwng a chewch weld sut yr oedd cerrig enfawr (a phob math o bethau ofnadwy eraill) yn cael eu hyrddio gyda digon o rym i dorri drwy’r amddiffynfeydd mwyaf cadarn.

Am fanylion llawn, gan gynnwys oriau agor a phrisiau mynediad, ewch i www.castellcaeriw.com.

Capsiwn: Bydd sesiynau Profi’r Oes Haearn yn cael eu cynnal yn ddyddiol yng Nghastell Henllys o ddydd Sadwrn 1 Ebrill ymlaen.

Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys hefyd yn cynnal Helfa Wyau Pasg o ddydd Sadwrn 1 Ebrill tan ddydd Sul 23 Ebrill, a’r gost fydd £2 y plentyn. Fel yn achos Caeriw, bydd y tâl mynediad arferol yn daladwy.

Bydd sesiynau Profi’r Oes Haearn yn cael eu cynnal yn ddyddiol o ddydd Sadwrn 1 Ebrill ymlaen, gyda chyfle i ddysgu am fywyd yn y cyfnod cynhanes gydag aelodau cyfeillgar o’r Llwyth, cewch weld arddangosiad o grefft hynafol a chyfle i ddefnyddio ffon dafl – os bydd y tywydd yn caniatáu. Mae taith dywys o amgylch y Pentref wedi’i chynnwys yn y tâl mynediad. Bydd fersiwn dawelach o’r sesiwn hon, heb ddim gweithgareddau nac arddangosiadau swnllyd yn cael eu cynnal ar foreau Sul rhwng 10am a 12 hanner dydd.

Bydd yr uchafbwyntiau eraill yn y Pentref Oes Haearn yn ystod gwyliau’r ysgol yn cynnwys sesiynau Gweithgareddau Cynhanes bob dydd Llun i ddydd Iau am dâl ychwanegol o £3, a thaith dywys o amgylch y safle drwy gyfrwng y Gymraeg ar ddydd Sadwrn 1 Ebrill. Cewch ragor o wybodaeth yn www.castellhenllys.com.

Capsiwn: Bydd marchnad grefftau gyntaf Oriel y Parc am 2023 yn digwydd ddydd Sadwrn 8 Ebrill.

Bydd gwledd yn aros ymwelwyr ag Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi dros y Pasg, gyda phob math o ddigwyddiadau crefft, arddangosfeydd celf a Marchnad Grefftau’r Gwanwyn wedi’i threfnu yn ystod y gwyliau.

Bydd Llwybr Pryfed Diddorol wedi’i drefnu rhwng dydd Sadwrn 1 Ebrill a dydd Sul 16 Ebrill. Mae mynediad yn costio £3 y plentyn ac mae gwobr fechan wedi’i chynnwys yn y pris. I’r rhai sy’n teimlo fel gweithgarwch creadigol wedi’i ysbrydoli gan fyd natur, mae Clwb Dydd Mercher Oriel y Parc yn werth ymweliad. Ddydd Mercher 5 Ebrill, bydd gweithdy plannu planhigion cyfeillgar i wenyn yn cael ei gynnal; ac ar ddydd Mercher 12 Ebrill, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i greu pryfyn moch coed lliwgar neu pod wedi’i ailgylchu o ddeunyddiau naturiol i ddenu buchod coch cwta i’w gerddi. Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal rhwng 11am a 3pm ac mi fydd angen archebu lle ymlaen llaw, a chodir £3 y plentyn.

Bydd marchnad grefftau gyntaf Oriel y Parc am 2023 yn digwydd ddydd Sadwrn 8 Ebrill rhwng 10am a 3pm. Bydd yn cynnwys stondinwyr lleol wedi’u dethol yn ofalus ac a fydd yn gwerthu crefftau a chynnyrch wedi’u gwneud â llaw, a bydd yn gyfle gwerth chweil i brynu anrhegion anarferol neu rywbeth i gofio am eich ymweliad.

I’r sawl sydd â diddordeb mewn celf â blas lleol, bydd Grŵp Celf Tyddewi a Solfach yn cynnal arddangosfa wanwyn yn Ystafell Ddarganfod yr Oriel rhwng dydd Llun 3 Ebrill a dydd Sul 9 Ebrill. Bydd yn cynnwys grŵp lleol o artistiaid amatur sy’n byw yng nghyffiniau Tyddewi ac sy’n cwrdd yn wythnosol ym mhentref pysgota cyfagos Solfach. Bydd yr elw o’r arddangosfa’n mynd tuag at elusennau lleol.

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn Oriel y Parc, ewch i www.orielyparc.co.uk.

Capsiwn: Bydd taith dywys yn ardal Solfach ddydd Gwener 7 Ebrill yn canolbwyntio ar themâu smyglwyr a môr-ladron.

Yn ogystal â rhaglen brysur o weithgareddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd yn nhri atyniad yr Awdurdod i ymwelwyr, bydd digon o gyfle i fynd allan i grwydro yn ystod y Pasg i ddarganfod mwy am hanes, diwylliant a bywyd gwyllt y Parc gyda thywysydd arbenigol.

Bydd taith gerdded Smyglwyr a Môr-ladron yn cael ei chynnal yn ardal Solfach ar ddydd Gwener 7 Ebrill rhwng 10am a 12.30pm, a thywod a glo fydd thema taith cerdded yn Saundersfoot ddydd Sadwrn 8 Ebrill.

Bydd Taith Gerdded Maes Tanio Castellmartin gyntaf 2023 yn cael ei chynnal ddydd Sul 9 Ebrill rhwng 9.30am a 4.30pm. Mae taith cerdded gylchol Brownslade yn gyfle gwych i weld ac i ddysgu am y bywyd gwyllt yn rhannau mwyaf mewnol y Maes, lle nad oes llawer o ymwelwyr yn cael mynd. Cewch ddysgu rhagor hefyd am ei hanes a’r defnydd milwrol a wneir ohono heddiw. I rai dros 18 oed yn unig. Mae’r cyfleusterau ar y safle’n gyfyngedig. Ni chaniateir cŵn. £6 y pen. 

Rhaid archebu ymlaen llaw ar gyfer pob un o’r teithiau tywys. Ewch i https://pembrokeshirecoast.bookinglive.com/cy_GB/hafan/ i archebu lle.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle