Plaid Cymru yn cyhoeddi cynllun ar gyfer gwasanaeth gofal plant am ddim i bawb – “gyda’r cynigion fwyaf hael yn y DU”

0
204
Heledd Fychan MS

Mae Plaid Cymru heddiw wedi amlinellu sut y gellid gweithredu gwasanaeth addysg a gofal blynyddoedd cynnar cenedlaethol rhad ac am ddim, gyda darpariaeth o ansawdd uchel i bob plentyn 12 mis oed nes eu bod yn gymwys ar gyfer addysg amser llawn, cyn y diwedd chweched tymor y Senedd.

Mae gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros blant a phobl ifanc Heledd Fychan heddiw wedi amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru fynd ymhellach na hyn ac wedi ailadrodd gweledigaeth tymor hwy Plaid Cymru ar gyfer gofal plant am ddim i bawb.

Mae’r cynlluniau’n amlinellu camau gweithredu ar unwaith i helpu plant a theuluoedd yng nghymunedau tlotaf Cymru drwy gyflwyno lleoedd i blant 12 mis oed yn ystod cam cyntaf y polisi.

Dywedodd Heledd Fychan AS: “Mae rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant yn rhan o weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru well. Mae hyn yn golygu gofal plant dwyieithog ac addysgol o ansawdd uchel am ddim i bawb, gan helpu teuluoedd gyda chostau gofal plant a chael gwared ar rwystrau i rieni sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith.

“Mae Plaid Cymru yn falch o fod wedi sicrhau gofal plant am ddim i blant dwy oed fel rhan o’n cytundeb gyda Llywodraeth Cymru. Ond rydym bob amser wedi dweud ein bod am fynd ymhellach.

“Mae’r cynigion amlinellir heddiw yn dangos sut y gellid sicrhau gofal plant am ddim i bawb erbyn diwedd tymor y Senedd hon – gyda buddsoddiad ychwanegol mewn lleoliadau gofal plant, hyfforddiant a chreu miloedd o swyddi yn cael eu gweithredu ar unwaith. Byddai hyn yn ei wneud yn un o’r cynigion mwyaf hael yn y DU, yn decach na’r Torïaid ac yn fwy uchelgeisiol na Llafur.

“Byddai polisi Plaid Cymru yn rhoi hawliau plant yn gyntaf – credwn y dylai plant allu cael mynediad at fuddion addysg gynnar a gofal waeth ble maent yn byw a statws gwaith eu teuluoedd. Byddai ein cynnig hefyd yn adlewyrchu anghenion teuluoedd yn well, ar gael am 48 wythnos y flwyddyn nid dim ond 39 wythnos.

“Mae manteision gofal plant am ddim yn y tymor hir wrth drechu tlodi yn golygu ein bod nid yn unig yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant, ond hefyd yn gwneud gwahaniaeth i’w dyfodol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle