Mae ysgol carbon sero net mewn adeilad newydd – fel rhan o Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru – yn mynd i gael ei sefydli yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn llawn dop o dechnoleg sy’n ynni-effeithlon gan gynnwys pwmp gwres o’r ddaear a phaneli ffotofoltäig ynghyd â defnyddio cadwyni cyflenwi lleol a deunyddiau lleol.
Ni fydd defnyddio deunyddiau sy’n ddwys o ran carbon yn cael ei annog pan fo hynny’n ymarferol, ond yn hytrach bydd cymhelliant i ddefnyddio deunyddiau naturiol ac adnewyddadwy, a deunyddiau a ailgylchwyd, ble bo’n addas.
Bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn cael ei hailadeiladu’n gyfangwbl a bydd yn cynnwys Uned Drochi’r Gymraeg a Hwb Cymunedol a fydd yn darparu ystod o wasanaethau addysgol a chymunedol a ddarperir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, sefydliadau partner a grwpiau gwirfoddol er mwyn bod o fudd i gymuned leol Sandfields ac ardal Port Talbot yn ehangach.
Bu i’r Her Ysgolion Cynaliadwy wahodd cynigion gan bob cwr o Gymru ar gyfer prosiectau ysgolion hynod arloesol oedd yn cynnwys cydweithio gyda chymunedau lleol, gan gynnwys disgyblion, wrth ddylunio, darparu a rheoli’r ysgol.
Y syniad yw y bydd y prosiectau ysgolion lleol yn dod yn esiampl ar gyfer dyfodol ysgolion cynradd yng Nghymru.
I ddechrau, dau enillydd oedd i fod, ond oherwydd safon uchel y ceisiadau, cytunodd y Gweinidog Addysg a Chymraeg, Aelod y Senedd dros Gastell-nedd, Jeremy Miles, i ariannu tair ysgol gynaliadwy newydd – buddsoddiad sy’n dod i gyfanswm o £44.7m ar gyfer y tri phrosiect.
Yn ogystal ag Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan, bydd dwy ysgol sero net arall yn cael eu sefydlu bellach, yng Ngwynedd ac yn Rhondda Cynon Taf.
Mae prosiect Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn golygu dymchwel yr ysgol Gymraeg bresennol a’r adeiladau cymunedol cysylltiedig, a datblygu, ar yr un safle, ysgol gymunedol cyfrwng Cymraeg carbon sero net gydag Uned Drochi’r Gymraeg a Hwb Cymunedol.
Bydd darparu’r prosiect yn effeithlon yn sicrhau fod y cynnyrch a’r cydrannau a ddefnyddir i adeiladu, ac i bweru’r adeilad yn cael eu rheoli a’u cynllunio i gyflawni carbon sero net.
Yn ôl Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Hyfforddi, y Cynghorydd Nia Jenkins: “Dyma lwyddiant rhagorol gan bawb a fu’n rhan o hyn. Fe wnaeth disgyblion a staff YGG Rhosfan, ynghyd â’r grwpiau cymunedol a leolir yng Nghanolfan Tirmorfa ac aelodau ehangach o’r gymuned, oll gyfrannu i’r weledigaeth ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn, ac edrychwn ymlaen yn awr at weld y cynllun arloesol a chyffrous hwn yn datblygu, gan gynnig cyfleoedd newydd i blant ac oedolion yn yr ardal.Wrth gyhoeddi’r prosiectau buddugol, meddaiJeremy Miles: “Mae dysgu am gynaliadwyedd yn orfodol yn ein Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r tri phrosiect yma’n rhoi cyfle gwych i ysbrydoli dysgwyr a chyflawni nod y cwricwlwm i ddatblygu dinasyddion moesol, gwybodus.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle