Mae elusen GIG leol yn gosod sialens #NHS75 i godwyr arian

0
314

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn galw ar gefnogwyr i godi arian ar gyfer eu GIG i ddathlu ei ben-blwydd yn 75 eleni.

Mae elusen y GIG yn codi arian i ddarparu gweithgareddau a gwasanaethau ychwanegol sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer.

Mae’r elusen yn gwahodd unigolion a chymunedau i ddangos eu cariad at eu GIG drwy gael hwyl gyda’r thema pen-blwydd yn 75 oed.

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian: “Fodd bynnag y mae pobl yn codi arian, a faint bynnag y maent yn ei godi, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiadau cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

“Mae’r elusen yn codi arian ar gyfer nifer o wasanaethau a gweithgareddau: gallai’r rhain fod yn gysur ychwanegol i gleifion, offer meddygol cyfoes, mentrau datblygu a lles staff, neu amgylchedd mwy croesawgar i gleifion.

“Rydym am i ben-blwydd eleni yn 75 oed ysbrydoli pobl i ddangos eu cariad at y GIG, a chael llawer o hwyl yn y broses!”

Mae pobl sy’n codi arian yn cael eu gwahodd i fod mor greadigol ag y dymunant gyda’r thema #NHS75, er enghraifft, drwy:

  • Cerdded, rhedeg, nofio neu feicio 75 milltir yn 2023 a gofyn i’w ffrindiau a’u teulu eu noddi
  • Cynnal te parti a chodi 75c am baned a chacen
  • Trefnu ffair sborion 75c-yr-eitem
  • Cynnal raffl am 75c y tocyn
  • Cynnal diwrnod ‘henebion’ a chludo eu ffrindiau a’u teulu yn ôl i 1948
  • Gwneud tawelwch noddedig sy’n para 7.5 awr
  • Cynnal diwrnod ‘gwisgo lan fel nyrs neu feddyg’ mewn ysgol neu ddiwrnod dillad eich hun gyda chyfraniad o 75c.

Ychwanegodd Tara: “Os hoffech chi godi arian ar gyfer eich elusen GIG y flwyddyn arbennig hon, mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, ac mae ein tîm codi arian wrth law i gynnig cymorth, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth.”

Mae mwy o wybodaeth am ymgyrch #NHS75 Elusennau Iechyd Hywel Dda ar gael yn: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/sialens-gig75/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle