Datganiad gan Lywodraeth Cymru: Diweddariad ar Safleoedd Rheoli Ffiniau

0
198
Former First Minister Vaughan Gething MS By National Assembly for Wales from Wales - Vaughan Gething AM, CC BY 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=50724446

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn ar ran nifer o gydweithwyr sy’n gyfrifol am wahanol feysydd o fioddiogelwch.

Ar 28 Ebrill 2022 hysbysais y Senedd bod Llywodraeth y DU yn atal y broses o gyflwyno rhagor o safleoedd rheoli ffiniau wrth iddynt gynnal adolygiad gyda’r bwriad o’i gwblhau erbyn yr hydref 2023.

Er bod bioddiogelwch yn gyfrifoldeb datganoledig, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir ynghylch manteision cydweithio’n gydlynol ar draws y Deyrnas Unedig. Felly, rydym wedi gweithio gyda’r llywodraethau eraill i ddatblygu cynigion ar gyfer cyfundrefn rheoli ffin sy’n seiliedig ar risg er mwyn ymdrin â nwyddau sy’n cael eu mewnforio o wledydd y tu mewn a’r tu allan i’r UE.

Felly, rwy’n falch o’ch hysbysu bod Llywodraeth y DU heddiw wedi cyhoeddi Model Gweithredu Targed y Ffin drafft (Saesneg yn Unig) ac mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol iddo.

Y garreg filltir gyntaf a gynigir o ran rhoi’r Model ar waith yw cyflwyno ardystiad iechyd ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion risg ganolig, a bwyd a phorthiant risg uchel nad ydynt yn deillio o anifeiliaid, sy’n cael eu mewnforio o’r UE o 31 Hydref 2023. Ar yr un pryd, yng Nghymru byddwn hefyd yn cyflwyno’r gofyniad i rag-hysbysu ar gyfer rhai categorïau ychwanegol o nwyddau iechydol a ffotoiechydol sy’n cael eu mewnforio o Weriniaeth Iwerddon, gofyniad sydd eisoes ar waith mewn mannau eraill ym Mhrydain Fawr ers mis Ionawr 2022.

Bydd yr ail garreg filltir yn cynnwys cyflwyno gwiriadau o ddogfennau a gwiriadau ffisegol o gynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion risg ganolig, a bwyd a phorthiant risg uchel nad ydynt yn deillio o anifeiliaid, sy’n cael eu mewnforio o’r UE. Yn Lloegr bydd y rhain yn dechrau o ddiwedd Ionawr 2024.

Mae cyflwyno mesurau rheoli ffin ar gyfer nwyddau sy’n cyrraedd Cymru o Ogledd Iwerddon yn rhyngweithio â’r rheolau newydd ynghylch mewnforion o ynys Iwerddon yn dilyn Fframwaith Windsor. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru eto wedi cytuno ar ddyddiad ar gyfer rhoi’r gwiriadau ffisegol ar waith. Yn hytrach, bydd yr amserlen ar gyfer yr holl borthladdoedd ar arfordir y gorllewin yn cael ei chadarnhau pan fydd y Model Gweithredu Targed y Ffin terfynol yn cael ei gyhoeddi. Rydym wedi ymrwymo i roi digon o rybudd i fasnachwyr, porthladdoedd a phartneriaid cyflenwi o’r newidiadau, felly mae’r Model Gweithredu Targed drafft yn cadarnhau na fydd y gwiriadau ffisegol yn cael eu cyflwyno tan o leiaf chwe mis ar ôl cyflwyno gofyniad i rag-hysbysu, i sicrhau fod popeth yn gweithio’n llyfn o’r cychwyn ar y pwyntiau mynediad hanfodol hyn.

Rwy’n sylweddoli bod hyn yn golygu y bydd Cymru’n cyflwyno’r gwiriadau hyn ar ôl i’r rhan fwyaf o borthladdoedd Lloegr wneud hynny ar 31 Ionawr 2024. Mae bioddiogelwch yn parhau i fod yn bwysig i ni, felly byddwn yn ystyried cadw rhai o’r gwiriadau presennol o blanhigion ac anifeiliaid risg uchaf yn y cyfamser. Fodd bynnag, mae’r risg o’r mewnforion o Iwerddon yn y cyfnod byr hwn yn gymharol isel yn y tymor byr.

Rwy’n gobeithio y bydd rhanddeiliaid ym mhob man yn cymryd amser yn ystod yr wythnosau nesaf i ystyried y cynigion hyn. Byddaf wrth gwrs yn darparu diweddariad pellach pan fydd fersiwn derfynol Model Gweithredu Targed y Ffin yn cael ei gyhoeddi.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso i sicrhau bod risgiau bioddiogelwch, iechyd y cyhoedd a diogelwch bwyd yn cael eu rheoli’n effeithiol, ac rwy’n benderfynol y dylai busnesau ac eraill dderbyn digon o amser i baratoi.

Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau am y Safleoedd Rheoli Ffin newydd fydd eu hangen i wasanaethu porthladdoedd fferi Cymru yn fuan, a gallaf gadarnhau bod y gwaith i baratoi ar gyfer safle rheoli ffin yng Nghaergybi wedi cychwyn.

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am arian i dalu costau llawn sefydlu rheolaethau’r ffin. Pan fo’r Model Gweithredu Targed yn cyfeirio at fuddsoddiad o £1bn yn y DU dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant, rwy’n deall bod hyn yn cynnwys ystod o feysydd cysylltiedig ond nid yw’n cynnwys costau safleoedd rheoli ffin yng Nghymru.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybod i’r aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu i ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd byddwn yn hapus i wneud hynny.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle