Sioe ffasiwn yn codi arian at Apêl Cemo Bronglais

0
294
Chwith i'r dde - yn ôl: Rhian Phillips (perchennog The Courtyard), Swyddog Codi Arian Bridget Harpwood, a Donna Smith-Jones Blaen - Jessica, Emily, Charlotte Smith-Jones (tripledi Donn

Diolch yn fawr i Rhian a Mark Phillips ym mwyty The Courtyard yn Aberystwyth, am gynnal sioe ffasiwn a chodi £260 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Huw Rees, sef ‘Huw Fash’ ar S4C, oedd yn arwain y sioe ffasiwn, a gynhaliwyd yn ôl ym mis Hydref, ac roedd y gwisgoedd a fodelwyd yn cynnwys Closet o Aberystwyth, Joy of Aberaeron, Ededa-J o Gastel lnewydd Emlyn, a Dot Clothing a Rig Out Boutique o Llandeilo. Dilynwyd hyn gan adloniant gyda’r nos gan y canwr Lee Gilbert.

Dywedodd Rhian a Mark: “Fe wnaethon ni ddewis codi arian i’r Apêl oherwydd ei fod yn un mor bwysig o fewn ein hardal leol. Yn anffodus, mae canser wedi dod yn salwch sy’n cyffwrdd yn llythrennol â bywydau pawb mewn rhyw ffordd y dyddiau hyn ac, i’r rhai sydd angen triniaeth, mae angen uned fodern, gyfforddus.”

Yn y llun yn trosglwyddo’r siec i Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda Bridget Harpwood (rhes gefn y canol) mae (rhes gefn o’r chwith) Rhian Phillips a Donna Smith-Jones gyda (rhes flaen) tripledi Donna sef Jessica, Emily a Charlotte.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, sydd wedi bod yn rhedeg yr Apêl: “Cafodd Apêl Cemo Bronglais ei lansio i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer adeiladu uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais. Mae’n bleser gennym adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged.

“Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i Rhian a Mark Phillips o The Courtyard am eu cefnogaeth ac i bawb sydd wedi cyfrannu at yr Apêl i’n helpu i gyrraedd ein targed.”

Am ragor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle