Cwmni adeiladu o Aberystwyth yn cynyddu ei lwyddiant diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru

0
348

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cwmni o Aberystwyth, LEB Construction Limited, i ehangu ei weithrediadau yn Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon yn y dre, drwy fuddsoddiad o £537,000 a fydd yn helpu’r cwmni i dyfu, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cyhoeddi heddiw.

Mae’r cwmni o’r Canolbarth yn arbenigo mewn prosiectau cymhleth i ailfodelu, ailwampio a chodi adeiladau newydd. Mae rhai uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys yr ailwampio, yr estyniadau a’r addasiadau gwerth £2.73 miliwn yn Ysgol Gynradd Aberteifi, y gwaith ailddatblygu gwerth £1.1 miliwn i droi Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn “Ganolfan Llesiant” flaenllaw Ceredigion, a’r gwaith gwerth £1.8  miliwn i greu Ystafell Bost newydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n cyflogi 14 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol, ac yn cefnogi 70 is-gontractwyr yn y rhanbarth. Maen nhw hefyd yn dibynnu ar gadwyn gyflenwi leol sy’n cynnwys dros 80 cwmni 

Mae gan y cwmni gynlluniau i ddatblygu ymhellach, ond maen nhw mewn sefyllfa lle mae eu safle presennol bellach yn rhy fach.

I gefnogi cynlluniau’r cwmni ar gyfer twf, mae Llywodraeth Cymru yn darparu Grant Datblygu Eiddo gwerth £537,336 a fydd yn galluogi’r cwmni i ddatblygu swyddfeydd dau lawr modern ac iddynt 5898 troedfedd sgwâr, sy’n cynnwys y seilwaith TG diweddaraf.

O ganlyniad i’r buddsoddiad, bydd gan y cwmni’r lle sydd ei angen arnyn nhw i ymgymryd ag amrediad o swyddogaethau newydd. Bydd y rhain yn eu helpu i dendro am gontractau mwy ac i dyfu a datblygu fel tîm. 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ein busnesau i ffynnu. Rydyn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i greu a chynnal swyddi o ansawdd uchel mewn cymunedau lleol, gan helpu ein heconomi i dyfu.

“Mae LEB Construction Limited yn cynnal nifer sylweddol o swyddi o ansawdd uchel ar gyfer pobl sy’n byw yn yr ardal leol. Mae ganddyn nhw gynlluniau i ehangu, ond maen nhw mewn sefyllfa lle mae eu safle presennol bellach yn rhy fach. Felly, rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu eu cefnogi nhw â’r buddsoddiad sydd ei angen arnyn nhw i ddatblygu prif swyddfeydd newydd. Bydd hyn yn galluogi’r cwmni i dyfu.

“Hoffwn i ddymuno’r cwmni’n dda ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Luke Baker, Rheolwr Gyfarwyddwr LEB Construction Limited:

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi ein huchelgais i ddatblygu prif swyddfeydd newydd yn Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon. Bydd y datblygiad yn cynnwys swyddfeydd modern newydd gyda’r systemau TG diweddaraf, ardaloedd ar gyfer cyfarfodydd bach, ystafell gyfarfod a hyfforddi, derbynfa groesawgar, storfeydd offer, gweithdy mawr ac iard adeiladwyr fawr. Mae gennyn ni gynlluniau yn y dyfodol i greu ein Hacademi Adeiladu ein hunain a fydd yn rhoi dechrau cryf i’n prentisiaid yn eu gyrfaoedd ym maes adeiladu, ac yn sicrhau bod gan LEB weithlu medrus a chymwysedig iawn yn y dyfodol.

“Mae’r datblygiad hwn yn ganlyniad 14 mlynedd o dwf parhaus a chynaliadwy. Rydyn ni wedi sefydlu tîm medrus o weithwyr adeiladu talentog yn yr ardal, ac wedi dangos ein bod yn gallu cyflawni prosiectau mwy a mwy cymhleth ar gyfer ein cleientiaid gwerthfawr. Mae hyn wedi rhagori ar ein disgwyliadau’n gyson.

“Drwy’r buddsoddiad sylweddol hwn rydyn ni’n sicrhau bod gan LEB Construction y sylfaen sydd ei hangen ar gyfer cam nesaf ein twf, a bydd yr adeilad yn lleoliad gwych ar gyfer rheoli gweithrediadau LEB Construction.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle