Dathlu a chroesawu syniadau a chyfleoedd newydd ar ffermydd Cymru mewn digwyddiad diwydiant

0
352
By David Saunders, CC BY-SA 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=12906966

Bydd dathlu rôl ymchwil ar y fferm a gynhelir ledled Cymru i groesawu syniadau a chyfleoedd newydd dan sylw mewn digwyddiad allweddol yn y diwydiant ym mis Mai.

Bydd ffermwyr ac arbenigwyr diwydiant yn cwrdd yn Neuadd Gregynog, ger y Drenewydd ar 5 Mai i glywed gan y rhai sydd wedi bod yn rhan o raglen Prosiect Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf, i archwilio a thrafod syniadau newydd a sut y gellir eu croesawu ar ffermydd Cymru.

Dywedodd Rheolwr EIP yng Nghymru, Owain Rowlands fod datblygu ffyrdd newydd o weithio yn bwysicach nawr nag erioed gyda phwysau yn ymwneud â chynyddu costau mewnbynnau, targedau sero-net a cholli bioamrywiaeth.

“Mae’r sector amaethyddol yn wynebu newidiadau a heriau cyson ond mae’n bwysig sylweddoli y gall y rhain ddod â chyfleoedd i ddatblygu syniadau a ffyrdd newydd o weithio,” meddai.

“Byddwn yn edrych yn ôl dros lwyddiant rhaglen EIP yng Nghymru a ariannodd 46 o brosiectau ar y fferm, gan weithio gyda dros 200 o ffermwyr ledled Cymru i ymchwilio i amrywiaeth o bynciau gwahanol gan gynnwys pridd a glaswelltir, iechyd anifeiliaid, bioamrywiaeth, ansawdd aer a dŵr, storio carbon a geneteg.”

Mae EIP yng Nghymru, meddai Mr Rowlands, wedi dangos pa mor bwysig yw hi i ffermwyr gydweithio’n agos ag eraill yn y sector amaethyddol.

“Mae ein digwyddiad yn gyfle i ddod at ein gilydd a chlywed straeon llwyddiant prosiectau,” ychwanegodd.

Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys trafodaethau panel rhyngweithiol ar arferion ffermio cynaliadwy, technolegau amaethyddol, iechyd a lles anifeiliaid a chynhyrchu garddwriaethol, dan arweiniad gwyddonwyr, milfeddygon, arbenigwyr a ffermwyr.

Bydd y rhai sy’n mynychu yn cael cyfle i lunio ymchwil yn y dyfodol drwy ddweud eu dweud ar sut ddylai’r ymchwil hwnnw edrych.

Mae siaradwyr eraill yn cynnwys y ffermwr o Bowys, Keri Davies, Fferm Glwydcaenewydd, sy’n treialu newidiadau mewn arferion amaethyddol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a gwydnwch ffermydd, a Tim Bennett, cadeirydd y Ganolfan Arloesedd a Rhagoriaeth mewn Da Byw (CIEL).

Bydd y digwyddiad yn rhedeg o 9:30-16:00

Am fwy o fanylion, cliciwch yma.

Mae’n hanfodol ein bod ni’n derbyn eich RSVP erbyn 28 Ebrill 2023.

Lleoedd cyfyngedig ar gael.

I archebu eich lle, cliciwch yma, neu ffoniwch 03456 000813.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle