CAFC Ceredigion – Arddangosiad ail-hadu – Dydd Mercher 14 Mehefin 2023

0
183
Llun: Fferm Prifysgol Aberystwyth, Trawsgoed, Ceredigion.

Gyda phrisiau porthiant yn cynyddu, mae’r gallu i gynhyrchu porthiant cartref o safon uchel yn bwysicach nac erioed i ffermwyr Cymru. Un elfen allweddol i helpu i gyrraedd y nod o dyfu porthiant o ansawdd uchel yw rhaglen lwyddiannus o ail-hadu ac adfywio borfa. 

Mae Apêl Sir Nawdd CFAC Ceredigion 2024 yn trefnu arddangosiad ail-hadu glaswellt ar ddydd Mercher 14eg o Fehefin ar Fferm Prifysgol Aberystwyth Trawsgoed, SY23 4HS, rhwng 2pm a 5pm. 

Bydd y digwyddiad, sy’n agored i ffermwyr, y wasg a phawb sydd â diddordeb, yn gyfle unigryw i weld yr amrywiol dechnegau ac offer ail-hadu glaswellt. Bydd amryw o gontractwyr lleol yn arddangos gwahanol ddulliau o hau tir glas drwy ddefnyddio driliau disg sy’n hau mewn slotiau, beiriannau cyfunol ac oged hau ar wasgar.  

Bydd yr arddangosiad ail-hadu yn rhagarweiniad i ddigwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy CAFC a gynhelir ar ddydd Iau 30ain o Fai 2024, ar Fferm Prifysgol Aberystwyth, Trawsgoed. 

Dywedodd Cadeirydd digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy CAFC, Wyn Evans;  

“Bydd y digwyddiad yn arddangosfa o dechnegau ail-hadu a bydd yn rhoi cipolwg ar ymarferoldeb a chostau ail-hadu i ffermwyr. Mae’n gyfle unigryw i ymweld â safle digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy 2024.” 

Dywedodd Stephen Jones, Rheolwr Ffermydd Prifysgol Aberystwyth;  

“Rydym yn falch iawn o’ch gwahodd chi i gyd i Fferm Trawsgoed ar y 14eg o Fehefin, ac rydym yn gyffrous i weld effeithlonrwydd y gwahanol dechnegau ail-hadu. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Drawscoed.”   

Mae’r pwyllgor yn ddiolchgar am gefnogaeth Delaval a Germinal Seeds, sydd wedi cytuno i fod yn brif noddwyr y digwyddiad yn 2024.  

Bydd lluniaeth ar gael, i gofrestru, anfonwch e-bost at info@royalwelshgrasslandevent.com 

Am rhagor o fanylion a diweddariadau am yr arddangosiad ail-hadu a digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy CFAC dilynwch ein tudalen Facebook ‘Ceredigion 2024 RWAS Sustainable Grass and Muck Event’.   


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle