Eisteddfod yr Urdd 2023

0
342

Eleni bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, gŵyl sydd yn denu tua 100,000 o ymwelwyr, yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri rhwng 29 Mai a 3 Mehefin 2023.

Hoffem eich gwahodd i’r ŵyl i glywed mwy am yr Eisteddfod, yr Urdd a’r holl gyhoeddiadau a phrosiectau sy’n digwydd ar y Maes.

Bydd ystafell bwrpasol ar gyfer y wasg ar gael ar eich cyfer drwy gydol yr wythnos, gyda chyswllt wi-fi, llif byw o’r cystadlu a staff y tîm cyfathrebu ar gael i’ch cynorthwyo drwy’r wythnos. Cynhelir cynhadledd dyddiol i’r wasg am 10am (oni bai am ddydd Sadwrn y 3ydd).

Gŵyl Triban – 2-3 Mehefin – www.urdd.cymru/triban

Gŵyl o fewn gŵyl! Wedi llwyddiant ysgubol y llynedd, bydd Gŵyl Triban yn dychwelyd i Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae Gŵyl Triban yn gyfle i ddathlu’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru. Gwledd o fwyd a diod, gan gynnwys bar, wrth fwynhau perfformiadau byw ar ddau lwyfan dros ddau ddiwrnod ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd manylion llawn lein-yp Gŵyl Triban yn cael eu cyhoeddi wythnos nesaf.

Os hoffech drefnu pas y wasg i ymweld â’r Eisteddfod a Gŵyl Triban, a fyddech gystal ag anfon y canlynol at ywasg@urdd.org erbyn 15 Mai:

  • Enw gohebydd / ffotograffydd + llun pen ac ysgwydd
  • Enw’r cwmni / sefydliad
  • Pa ddyddiadau y byddwch yn ymweld

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle