Goldies yn canu ar gyfer Y BRENIN!

0
229
Llun: Ymunwch ag Elusen Goldies gyda Canu&Gwenu, i atal unigrwydd ymysg oedolion hŷn.

Bydd The Goldies Charity, sy’n adnabyddus a phoblogaidd am eu sesiynau canu cymdeithasol poblogaidd a hwyliog Canu&Gwenu ar draws Cymru a Lloegr yn dod â chymunedau ynghyd mewn steil i ddathlu Coroni’r Brenin ym mis mai!

Cafodd The Golden-Oldies Charity, a gaiff ei  galw fel arfer yn ‘Goldies’, ei sefydlu gan Grenville Jones, cerddor sy’n byw yng Nghaerfaddon, yn 2007. Mae dros 120 o grwpiau Canu&Gwenu erbyn hyn mewn gwahanol rannau  o Gymru a Lloegr mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a neuaddau eglwys.

Bydd Goldies yn dathlu penwythnos y Coroni yn eu holl grwpiau gyda llyfryn arbennig o ganeuon yn llawn caneuon o flynyddoedd cofiadwy y Brenin, yn cynnwys rhai gan ei hoff ffefrynnau – tebyg i The Three Degrees a berfformiodd yn ei barti pen-blwydd yn 30 oed yn 1978.

Dywedodd Cheryl, Arweinydd Ardal Rhaglen Cymru: “Mae’n wych y byddwn yn dathlu Coroni’r Brenin yn ein sesiynau. Mae’n ddigwyddiad hanesyddol sy’n bwysig iawn i lawer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein sesiynau. Rwyf wedi cael ymateb gwirioneddol gadarnhaol a chynifer o syniadau am yr hyn yr hoffent eu wneud yn y grwpiau. Bydd mis Mai yn fis llawen a chofiadwy.”

Bydd pob grŵp yn gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, Thema Frenhinol gyda theisennau a snaciau i’w rhannu ac eitemau Brenhinol. Dywedodd Joanne, Arweinydd De Gwlad yr Haf (Somerset); “Mae Chard yn wirioneddol edrych ymlaen at wneud ein sesiwn ym mis Mai yn arbennig. Rydym yn ei ymestyn a byddwn i gyd yn gwisgo coch, gwyn a glas. Byddwn yn dod â thipyn o fwyd a diod ac yn edrych ymlaen at ychwanegu Cwis Brenhinol at y digwyddiadau.”

Gyda’r nod o drechu unigrwydd mewn cymunedau lleol gyda gweithgareddau cerddorol HWYLIOG a CHALONOGOL, mae sesiynau Goldies yn llawn chwerthin a  sgwrs gyda phobl yn canu caneuon poblogaidd o’r 50au ymlaen gyda’i gilydd. Mae caneuon poblogaidd gydag artistiaid fel Syr Cliff Richard – sy’n Llywydd yr elusen, Syr Tom Jones, Elvis, Dusty Springfield, Petula Clark a llawer mwy.

Mae Stephanie yn arwain grŵp yn ne swydd Caerloyw: “Rwyf newydd gael fy mhecyn coroni, mor wych. Mae cymaint mwy o pobl yn ymuno â’n sesiwn ar hyn o bryd, bydd yn wych gweld pobl yn teimlo’n barod i ail-ymuno â’u cymuned leol ar ôl y pandemig. Mae pawb yn sôn pa mor wych mae tipyn o ganu gyda’i gilydd yn gwneud iddynt deimlo”

MAE CANU YN DDA I CHI! Ar wahân i fod yn hwyliog a chodi’r galon, mae gan ganu lawer o fanteision i iechyd. Gall canu ysgogi ymatebion imiwnedd, rhyddhau endorffinau sy’n llacio poen, gwella cwsg a gostwng chwyrnu, gwella galluedd ysgyfaint ac ystum, a gwneud lles i gyhyrau’r wyneb a’r stumog. Mae canu yn wych am lacio straen hefyd  a gwyddom ei fod yn dda am wella iechyd  meddwl, cefnogi’r rhai sy’n profi galar a phrofedigaeth, a datblygu ymdeimlad o berthyn a bod wedi cysylltu.

Dywedodd Monica, Arweinydd Sesiwn yn Swydd Efrog: “Cefais y pecyn Coroni drwy’r post, am syniad hyfryd. Bydd fy ngrwpiau yn dod ag ychydig o fwydydd a diodydd gyda nhw a phethau ar gyfer raffl. Byddant wrth eu bodd gyda’r pamffled ac mae nifer wedi gofyn am grysau-ti Goldies hefyd. Rydyn ni’n caru Goldies ac yn falch i fod yn rhan o’r elusen wych yma.”

Diolch yn fawr i St Monica Trust ym Mryste am gefnogi ein sesiynau Canu&Gwenu ym Mryste, de Swydd Caerloyw, gogledd Gwlad yr Haf a B&NES gyda grant bach o gynllun Grant y Coroni.

Mae Sefydliad Moondance yn gefnogwr gwych yng Nghymru.

Mae sesiynau Canu&Gwenu Goldies ar agor i bawb, gan roi “rhywbeth i edrych ymlaen ato” i pobl, cyfle i fynd allan, gwneud ffrindiau newydd ac – yn bwysicaf oll –cael ychydig o hwyl. Nid côr yw Goldies, nid yw’n rhaid i chi fedru canu i ymuno, dim ond bod wrth eich bodd gyda cherddoriaeth a chwmni. Argymhellir cyfraniad o £3 am fynychu.

Mae’r Côr pob amser yn awyddus i recriwtio arweinwyr sesiynau newydd a gwirfoddolwyr ac i glywed gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ynysig. Ewch i’r wefan www.golden-oldies.org.uk , ffonio’r swyddfa ar 01761 470006 neu anfon e-bost at events@golden-oldies.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Ydych chi’n edrych am grŵp cymdeithasol hwyliog yn ystod y dydd? Pam na ymunwch â’ch sesiwn leol Canu&Gwenu Dathlu’r Coroni.

CYMRU

BLAENAU GWENT

Llyfrgell Tredegar, Y Cylch, Tredegar, NP22 3PS – ail ddydd Mawrth y mis – o 12.00pm

BRO MORGANNWG

Neuadd Lantonian, tu ôl i Glwb Rygbi Llanilltud Fawr, ger Heol Boverton, Llanilltud Fawr – trydydd dydd Llun y mis – o 10.30am

CAERDYDD

Eglwys Bedyddwyr Ararat, Plas Treoda, Eglwys Newydd, CF14 1PT – dydd Llun cyntaf y mis o 2.00pm

Llyfrgell Rhydypennau, Heol Llandennis, Rhydypennau,  CF23 6EG – POB dydd Mawrth o 10.30am

Hyb Rhiwbeina, Pen-y-Dre, Rhiwbeina, CF14 6EH – trydydd dydd Mercher y mis o 10.30am

Llyfgell Ganolog Caerdydd, Yr Ais, Caerdydd – ail ddydd Llun y mis o 12.30pm

The Powerhouse, Roundwood, Llanedeyrn, CF23 9PN – dydd Mercher cyntaf y mis – o 10.30am

Llyfrgell Treganna, Stryd y Llyfrgell, Caerdydd, CF5 1QD – dydd Mawrth cyntaf y mis – o 2.30pm

Hyb Eglwys Newydd, Park Road, Eglwys Newydd, CF14 7XA – dydd Mawrth olaf y mis – o 10.30am

Hyb Llaneirwg, 30 Crickhowell Road, Caerdydd, CF3 0EF – dydd Mawrth olaf y mis – o 11.00am

Hyb Trelai a Caerau, Cowbridge Road West, Caerdydd,  CF5 5BQ – ail ddyddGwener y mis o 10.00am

CAERFFILI

Canolfan Chwaraeon a Chymunedol Ael y Bryn, AneurinTerrace, Rhymni, NP22 5DR – dydd Mercher olaf y mis o 12.00pm

Canolfan Vanguard, Eglwys Unedig Ddiwygiedig, Heol Fan, CF38 1JZ – ail ddydd Llun y mis o 11.00am

CEREDIGION

Maes Mwldan, Heol y Baddondy, Aberteifi SA43 1JZ – dydd Iau olaf y mis – o 2.00pm

CWM TAWE

Capel Tabernacl, 14 Thomas St, Pontardawe, SA8 4HD – dydd Iau olaf y mis- o 11.00am

PEN-Y-BONT AR OGWR

Eglwys Sant Theodore, Mynydd Cynffig, CF33 6DR – ail ddydd Mawrth y mis o 11.00am

SIR BENFRO

Bro Preseli, Heol Parc y Ffair, Crymych, Sir Benfro SA41 3SJ – ail ddydd Mawrth y mis – o 2.00pm

SIR GAERFYRDDIN

Neuadd Gymunedol Eglwys y Drindod Sanctaidd, Castellnewydd Emlyn, SA38 9AB – dydd Llun olaf y mis – o  11.00am

Canolfan John Burns, Tŷ Parc, Cydweli, SA17 5AB – dydd Mawrth cyntaf pob mis – o 1.30pm

Heol Goffa, Llanelli SA15 3LS – 3ydd dydd Iau pob mis – o 10:30am

Tŷ Dyffryn, Rhodfa Frank, Rhydaman, SA18 2QE – 2il ddydd Mercher y mis  – o 1.30pm

LLOEGR

Caerfaddon/Bath a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf (B&NES)

Caerfaddon, Odd Down – Eglwys  St Philips & St James Church, BA2 2QF – dydd Mawrth cyntaf pob mis o 10.30am

Caerfaddon,  Larkhall – Ystafell Gymunedol Hanover Court Community Room, BA1 6QX – dydd Mawrth cyntaf pob mis o 2.00pm

Caerfaddon, Weston – Canolfan All Saints Centre, BA1 4BX – dydd Mawrth cyntaf pob mis o 2.00pm

Keynsham – Canolfan Key Centre, BS31 2JA – dydd Gwener olaf pob mis o 2.00pm

Stanton Drew – Neuadd y Pentref/Village Hall, BS39 4EL – pedwerydd dydd Mercher pob mis o 11.00am

Timsbury – Neuadd Conygre Hall, BA2 0JQ – ail ddydd Mercher pob mis o 11.00am

Bryste/Bristol a De Swydd Caerloyw/South Gloucestershire

Brentry – Canolfan Gymunedol Henbury & Brentry Community Centre, BS10 7HG – dydd Iau cyntaf pob mis o 11.00am

Filton – FACE at Elm Park, BS34 7PS – dydd Mercher cyntaf pob mis o 2.30pm

Knowle – Canolfan Gymunedol Inns Court Community Centre, BS4 1TR – amrywiol ddyddiau Mawrth a dyddiau Mercher (gweler y wefan) o 11.00am

Lawrence Weston – Lolfa Preswylwyr Blaise Weston Court Residents’ Lounge, BS11 0AF – trydydd dydd Mawrth o 2.00-3.00pm

Shirehampton – Tithe Barn, BS11 0DE – dydd Mercher cyntaf pob mis o 10.30am

Stoke Gifford – Canolfan Eglwys St Michael Church Centre – dydd Mawrth cyntaf pob mis o 2.00pm

Yate – Ystafell Gymunedol Cambrian Green Court Community Room, BS37 5TR – trydydd dydd Iau pob mis o 10.30am

Cernyw/Cornwall

Wadebridge – Canolfan John Betjeman Centre, PL27 7BX – cyntaf a thrydydd dydd Iau pob mis o 2.00pm

Dyfnaint/Devon

Caerwysg/Exeter – Canolfan The Beacon Centre, EX4 8LZ – trydydd dydd Iau pob mis o 2.00pm

Topsham – Nancy Potter House, EX3 0DX – Sesiwn flasu ddydd Gwener 17 Mawrth o 10.30pm

Essex

Braintree – Llyfrgell Braintree Library, CM7 3YL – dydd Llun cyntaf pob mis o 10.30am

Chelmsford – Canolfan Gymunedol Beaulieu Community Centre, CM1 6AU – trydydd dydd Gwenrer pob mis o 11.30am

Halstead – Llyfrgell Halstead Library, CO9 1HU – ail ddydd Llun pob mis o 11.00am

Harlow – Playhouse Theatre 2, CM20 1LS – ail dydd Mercher pob mis o 12.30pm

Hawkwell – Egwys Emmanuel Church, SS5 4NR – ail ddydd Mawrth pob mis o 2.00pm

Llundain – Dwyrain/East London

Havering – Havering Asian Social Welfare Association, RM12 5NB – ail ddydd Llun pobmis o 1.00pm. Hefyd sesiwn Canu&Gwenu Bollywood wythnosol poblogaidd pob dydd Mercher o 2.00pm.

Mendip

Shepton Mallet – Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth/Salvation Army Hall, BA4 5BU – dydd Gener cyntaf pob mis o 2.00pm

Wells – Neuadd Eglwys Fethodistaidd/Methodist Church Hall, BA5 1UH – dydd Gwener cyntaf pob mnis o 20.30pm

Gwlad yr Haf – Gogledd/North Somerset

Clevedon – Ystafell Gymunedol Clifton Court Community Room, BS21 6QS – dydd Mawrth cyntaf pob mis o 10.30am

Nailsea – Eglwys Fethodistaidd/Methodist Church, BS48 2DS – dydd Iau olafpobmis o 10.30am

Pill –Eglwys Fethodistaidd/Methodist Church, BS20 0ES – ail ddydd Iau pob mis o2.00pm

Gwlad yr Haf – De/South Somerset

Chard – Crowshute House, TA20 2EZ – dydd Iau cyntaf pob mis o 10.30am

Crewkerne – Canolfan Henhayes Centre, TA18 8DA – pedwerydd dydd Iau pob mis o 2.00pm

Queen Camel – Ystafell Gymunedoll Cleaveside Community Room, BA22 7PR – ail ddydd Iau pob mis o 2.00pm

Yeovil – Canolfan Hmdden Mudford Recreation Centre, BA21 4AW – dydd Iau pob mis (manylion ar y wefan) 0 11.00am

Swydd Stafford/Staffordshire

Rugeley – Ystafell GymunedolSt Paul’s Community Room, WS15 2EH – trydydd dydd Mawrth pob mis o 11.00am

Uttoxeter – Eglwys Fethodistaidd/Methodist Church, ST14 7JQ –dydd LKlun olafpob mis o 11.00am

Suffolk

Hadleigh – Ystafell Gymunedol United Reform Church Community Room, IP7 5DL – dydd Llunc yntaf pob mis o 2.00pm

Wiltshire & Swindon

Calne – Canolfan The Marden House Centre, SN11 0JJ – ail dyddd Gwener pob mis o 2.00pm

Codford – Tuesday Café yng Nghlwb Ar Ôl Ysgo Wylye Coyotes Afterschool Club, BA12 0PN – trydydd dydd Mawrth p[ob mis o 10.45am

Corsham – Caolfan Gymunedol Pound Arts Centre, SN13 9HX – dydd Llun cyntaf pob mis o 2.00pm

Downton – Neuadd Goffa/Memorial Hall, SP5 3NB – pedwerydd dydd Mercher pob mis o 10.00am

Salisbury – Eglwys Fethodistaidd/Methodist Church, SP1 1EF – ail ddydd Llun pob mis o 2.00pm

Swindon – Canolfan Gymunedol Coleview Community Centre, SN3 4AS – dydd Iau cyntafpob mis o 2.30pm

Warminster – Eglwys Unedig/United Church, BA12 8QB – dydd Iau cyntaf pob mis o 2.30pm

Swydd Efrog/Yorkshire

Crosshills – Eglwys Fethodistaidd St Peter’s Methodist Church, BD20 8TF – dydd Mawrth cyntaf pob mis o 2.00pm

Eldwick – Eglwys Eldwick Church, BD16 3EQ – ail ddydd Mawrth pob mis o 2.00pm

Steeton – Eglwys Fethodistaidd/Methodist Church, BD20 6TU – trydydd dydd Mawrth pob mis o 2.00pm


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle