Parcmon Tymhorol yn cael swydd barhaol gydag Arfordir Penfro

0
269
Capsiwn: Megan Pratt yw Parcmon newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer Ardal y Gogledd-orllewin.

Ar ôl treulio dau haf yn gweithio gyda’r Awdurdod fel Parcmon Tymhorol, bydd aelod diweddaraf Tîm Parcmyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn wyneb cyfarwydd i lawer ohonom.

Bydd Megan Pratt, a gafodd ei geni a’i magu yn Sir Gaerfyrddin, yn dechrau ar ei swydd fel Parcmon Ardal y Gogledd-orllewin, yn dilyn ymddeoliad diweddar un o hoelion wyth y Parc Cenedlaethol, Ian Meopham.

Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i gwyliau haf o gwmpas Penrhyn Tyddewi, mae Megan wastad wedi breuddwydio am weithio a byw yn yr ardal. Gan fod ganddi gefndir yn y dyniaethau, mae hi’n edrych ymlaen at gyfuno cariad gydol oes at fyd natur â dehongli hanes naturiol a dynol yr ardal i bobl eraill.

Dywedodd Megan: “Mae Sir Benfro yn ardal arbennig iawn i bobl mewn cynifer o wahanol ffyrdd, ac mae gan bob un ohonom leoedd penodol sy’n agos at ein calonnau. Arfordir gwyllt, garw a digysgod y Gogledd-orllewin yw’r hyn sy’n crisialu hud y Parc Cenedlaethol i mi; ochr yn ochr yn â’r olygfa odidog o’r môr a’r Parc wrth edrych i lawr o ben Garn Llidi a Garn Fawr.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio gyda’r holl gymunedau yn fy ardal, yn enwedig yr ysgolion lleol. Hoffwn ganolbwyntio ar wneud mwy dros gymunedau lleol er mwyn i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro allu profi rhyfeddod y gymuned drwy gydol y flwyddyn.”

Mae Ardal gogledd-orllewinol y Parc Cenedlaethol yn ymestyn o’r pentir i’r Gogledd-orllewin o Abergwaun tuag at Nolton Haven. O fewn yr ardal hon mae atyniadau fel Pen-Caer, cyrchfannau poblogaidd Porthgain ac Abereiddi, Penrhyn Tyddewi, ac eangderau Traeth Niwgwl.

I gysylltu â Megan, anfonwch e-bost at meganp@arfordirpenfro.org.uk neu ffoniwch 07866 074148.

I gael rhagor o wybodaeth am Barcmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/i-ysgolion-ac-addysgwyr/eich-parcmon/ neu hoffwch dudalen Facebook Parcmyn Arfordir Penfro: www.facebook.com/pembscoastrangers/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle